Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Cyfeirnod y swydd
050-NMR493-0826
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Iechyd Plant Wrecsam/ Ty Catherine Gladstone
Tref
Wrecsam/ Mancot
Cyflog
£40,559 - £48,841 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/09/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Ymarferydd/ Nyrs CAMHS

Gradd 6

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn CAMHS Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae gennym nifer o swyddi gwag llawn amser a rhan-amser ar gael ar draws ein timau yn Wrecsam a Sir y Fflint, ac rydym yn chwilio am ymarferwyr profiadol i ymuno â ni. Nodwch eich dewis o leoliad wrth gyflwyno eich cais. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dyrannu i ardal leol ar ôl cyfweliad, yn seiliedig ar anghenion y gwasanaeth.
 

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â'n tîm clinigol gan ddarparu asesiad ac ymyriadau ar gyfer plant a phobl ifanc.

Os ydych chi'n frwdfrydig ac yn angerddol am weithio gyda Phlant a'u teuluoedd, gwnewch gais.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn chwilio am ymarferwyr sy'n gallu gweithio'n hyblyg ar draws gwahanol feysydd y gwasanaeth gyda'r brwdfrydedd sydd ei angen i ymgysylltu ag ystod eang o blant, pobl ifanc, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill i ddiwallu eu hanghenion amrywiol. Rhaid i chi fod yn weithiwr proffesiynol cofrestredig gyda chorff llywodraethu perthnasol (NMC, Gofal Cymdeithasol Cymru neu gyngor gweithwyr iechyd proffesiynol) a gallu cynnal asesiadau iechyd meddwl (sy’n cydymffurfio â Mesur Iechyd Meddwl Cymru 2010) ac ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc.

Byddai profiad o weithio yn y gymuned gyda phlant a phobl ifanc/oedolion sy'n arddangos amrywiaeth o ymddygiadau risg, anghenion iechyd meddwl cymhleth a sefyllfaoedd teuluol cymhleth o fantais.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych chi'n mwynhau her, os oes gennych angerdd i helpu eraill neu os ydych chi awydd dechrau newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion cywir. Y sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, sy’n darparu ystod lawn o wasanaethau ysbyty sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl, acíwt a dewisol ar gyfer poblogaeth o tua 700,000, ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â’n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith cymhwysedd ‘Balch o Arwain’.

Mwynhau bod yn rhan o weithio gydag arweinwyr ymgysylltiol ar bob lefel, a bod yn sicr ein bod wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun “Cyflogwr Hyderus gydag Anabledd”.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth yn ymwneud â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi'i gofrestru ar y ffurflen gais.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster proffesiynol craidd mewn maes iechyd neu ofal cymdeithasol fel nyrsio neu waith cymdeithasol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster ffurfiol ychwanegol mewn dull therapiwtig cydnabyddedig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol o weithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd mewn amgylchedd iechyd neu ofal cymdeithasol
Meini prawf dymunol
  • Yn gallu defnyddio offer asesu ffurfiol / cyfweliadau clinigol

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth Dda am broblemau ac anhwylderau iechyd meddwl
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth o strwythurau gwasanaeth a gweithio rhyngasiantaethol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Gemma Lamberton
Teitl y swydd
CAMHS Admin Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Ar gyfer manylion pellach a gwybodaeth, cysylltwch â: 
Terry Whinnett

[email protected]

01978 726009

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg