Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Awdioleg
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC225-0826
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £26,813 - £27,890 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 24/08/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 02/09/2026
Teitl cyflogwr
Ysgrifennydd Clinigol
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle am swydd wedi dod ar gael i Ysgrifennydd Clinigol ymuno â’n Tîm Awdioleg i gefnogi’r gwasanaethau awdioleg pediatrig ac oedolion, fel ei gilydd.
Mae’r swydd yn un 15 awr yr wythnos, a byddai’n gyfle delfrydol i rywun sy’n chwilio am swydd ran-amser yn Adran Awdioleg Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.
Byddwch yn gyfrifol am deipio adroddiadau clinigol, ateb ymholiadau dros y ffôn, mynd ar drywydd canlyniadau profion, canfod cofnodion meddygol, a chysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â gofal plant/oedolion â phroblemau clyw. Bydd gofyn i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a bod â phrofiad o ddyletswyddau clercol a
gweinyddol. Bydd angen i chi allu gweithio mewn ffordd bwyllog, resymegol a threfnus, ond gallu cyflawni nifer o dasgau wrth ddelio ag ymyriadau’n aml.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gan weithio 15 awr yr wythnos, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol cynhwysfawr ac o ansawdd i'r Tîm Awdioleg.
Byddwch yn ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau gan gynnwys derbyn a dosbarthu post, trawsgrifio sain (T-Pro), a theipio llythyrau ac adroddiadau sensitif iawn, gan gynnal cyfrinachedd bob amser, yn ogystal â gweithredu system gronfa ddata cleifion Awdioleg (AuditBase) ac y Bwrdd Iechyd. Bydd disgwyl i chi ddangos sgiliau trefnu rhagorol a bod yn hyblyg ac yn addasadwy yn eich agwedd at waith. Rhaid i chi allu gweithio ar eich menter eich hun, defnyddio tact a diplomyddiaeth lle bo hynny'n briodol a meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol.
Mae profiad o Microsoft Word, Excel, Power Point, ac E-bost, ynghyd â sgiliau ysgrifenyddiaeth profedig (gan gynnwys sgiliau teipio sain) yn hanfodol. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yn hanfodol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gallwch ddod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm wrth y dogfennau ategol, neu cliciwch ar "Apply now" i'w gweld yn Trac.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 02/09/2026.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel 3, neu gymhwysedd ar lefel gyfatebol mewn Prosesu Geiriau a Thrawsgrifio Sain
- Gwybodaeth am ystod o weithdrefnau ysgrifenyddol
- Gwybodaeth am raglenni meddalwedd, e.e. pecynnau Microsoft, e-bost, y Rhyngrwyd a chronfeydd data
- 5 TGAU neu gymwysterau cyfatebol
Meini prawf dymunol
- NVQ Lefel II mewn Gweinyddu
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ysgrifenyddol a/neu weinyddol blaenorol
- Profiad mewn Gwasanaeth Iechyd – yn gyfarwydd â defnyddio termau meddygol
Arall
Meini prawf hanfodol
- Dull hyblyg i anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jane Deans
- Teitl y swydd
- Head of Audiology
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227449
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad anffurfiol, cysylltwch â:
Jane Deans (Head of Audiology) on 01267-227449 neu ebost: [email protected]
Nerys Nightingale (Lead Secretary) on 01267 - 01267-402883 neu ebost: [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





