Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwasanaethau Sterileiddio
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener 07:00 - 19:00)
Cyfeirnod y swydd
100-ACS197-0826
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£26,813 - £27,890 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
31/08/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
07/09/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Technegydd Dadheintio

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn hunangymhellol sydd ag agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth i ymuno â'n Huned Gwasanaethau Di-haint ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Bydd deiliad y swydd wedi'i leoli yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais.

Byddai gallu profedig i reoli a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun, ynghyd â llwyth gwaith pobl eraill, a hynny mewn amgylchedd cyflym sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ac y mae ei ansawdd wedi'i sicrhau, yn fanteisiol.

Mae profiad blaenorol o weithio yn y Gwasanaethau Di-haint neu mewn amgylchedd dihalogi Endosgopi yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithio fel aelod o dîm y Gwasanaeth Di-haint yn cyflawni dyletswyddau sy'n gysylltiedig â darparu endosgopau hyblyg ac offer llawfeddygol wedi'u dihalogi i'r Bwrdd Iechyd a chwsmeriaid allanol.

Mae'r swydd yn un 37.5 awr yr wythnos. Yn ystod y cyfnod hyfforddi, bydd mentor hyfforddi penodedig yn cael ei neilltuo ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus bob amser. Pan fydd deiliad y swydd yn gwbl gymwys ym mhob agwedd ar y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau, bydd yn ofynnol iddo feddu ar ymagwedd hyblyg at weithio ar benwythnosau, cyflenwi dyletswyddau ar alwad, a gweithio ar Wyliau Banc.

 Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais. 

Cynhelir y cyfweliadu ar  07/09/2026

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd  
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manyleb y person

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad proffesiynol o weithio'n unol a system rheoli ansawdd mewn gwasanaeth diheintio, ynghyd â phrofiad o gymhwyso'r system honno
  • Y gallu i weithio ar eich menter eich hun
  • Profiad o ddelio a chwsmeriaid
  • Y gallu i roi cyngor, cyfarwyddo a monitro staff, ac i gymryd camau unioni llinell gyntaf
Meini prawf dymunol
  • Profiad o oruchwylio/rheoli staff

Cymwsyterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Lefel dda o addysg gyffredinol yn cynnwys TGAU neu gymwysterau cyfatebol
  • Llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol
  • NVQ lefel 3 mewn dadheintio neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster archwilydd mewnol i safonau ISO 13485
  • Wedi cyflawni'r rhaglen E-ddysgu mewn egwyddorion arferion dihalogi
  • Cwrs Tystysgrif Dechnegol Sefydliad y Gwyddorau Diheintio
  • Cymhwyster ECDL
  • Y gallu i ddarparu hyfforddiant ac asesiadau ymarferol yn y gweithle

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Beverley Williams
Teitl y swydd
Regional HSDU Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970 635701
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg