Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwasanaeth Brechlyn Integredig
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Oriau amrywiol)
Cyfeirnod y swydd
050-EA232-1026
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Bryn Tirion
Tref
Llanfairfechan, Conwy
Cyflog
£26,300 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
25/10/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Gyrrwr

Gradd 2

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Bydd deilydd y swydd yn darparu gwasanaethau Porthora/Gyrru cynhwysfawr ac yn darparu cymorth hanfodol i leoliadau Gwasanaeth Brechu Integredig BIPBC er mwyn sicrhau y gellir cyflawni gwasanaethau. Disgwylir i'r porthor ymateb i amrywiaeth o heriau yn amgylchedd y gwaith, ac efallai y bydd y llwyth gwaith yn cynyddu oherwydd dylanwadau allanol gan gynnwys yr amgylchedd, y tywydd, galluoedd cleifion ac ati.  

Bydd y porthor yn gweithio fel aelod o'r tîm ac yn cyfrannu at redeg y gwasanaeth yn hwylus, gan ddarparu ymateb effeithiol ac effeithlon i 
geisiadau i symud cleifion, cynorthwyo yn ystod argyfyngau, casglu a danfon samplau, meddyginiaethau, brechlynnau ac ati. Bydd hefyd yn 
sicrhau y caiff tasgau eraill megis y canlynol eu cyflawni'r rheolaidd ac yn ddi-oed: danfon a chasglu trolïau storfeydd, y post a phecynnau gan 
gynnwys nodiadau cleifion (trefniant lleol), cyflenwadau domestig a nwyon at ddibenion meddygol, tywys cleifion a dyletswyddau eraill a allai godi o bryd i'w gilydd.

Er bod llawer o'r tasgau yn rhai arferol ar y cyfan, efallai na ellir rhagweld beth fydd anghenion y gwasanaeth o ran ei weithredu beunuddiol, felly bydd dull hyblyg yn hanfodol, a bydd disgwyl i ddeilydd y swydd ddefnyddio ei synnwyr cyffredin.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Darparu gwasanaeth Porthora cynhwysfawr ar gyfer safleoedd y Gwasanaeth Bechu yn cyflawni ansawdd, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yn gyson, a gweithio'n ddiogel, yn drefnus ac yn hyderus.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.  

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. 

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Addysg gyffredinol o safon dda
  • Trwydded yrru lân ar gyfer ceir Categori B
Meini prawf dymunol
  • ECDL
  • Cymhwyster Gyrru Uwch
  • Tystysgrif Cymorth Cyntaf Sylfaenol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gyrrwr Profiadol
  • Profiad o Ofal Cwsmer / Delio â'r Cyhoedd
  • Profiad o Weithio mewn Tîm
Meini prawf dymunol
  • Cyflogaeth Flaenorol mewn Gwasanaeth Cludo Cleifion

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth dda am yr ardal ddaearyddol leol at ddibenion danfon a chasglu.
  • Yn fodlon Dysgu Sgiliau Cynnal Bywyd Sylfaenol
Meini prawf dymunol
  • Ymwybyddiaeth o Bolisïau, Gweithdrefnau ac Arferion Gwaith Perthnasol

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Llythrennog mewn TG
  • Sgiliau rhyngbersonol da, y gallu i ymdrin â chleifion mewn modd gofalgar
  • Y gallu i gadw cyfrinachedd cleifion
  • Gallu bod yn hyblyg ac yn fodlon addasu.
  • Gallu gweithio dan bwysau heb gyffroi.
Meini prawf dymunol
  • yn siarad Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Emily Barry
Teitl y swydd
Deputy Operations Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 854271
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Rebecca Griffiths - Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau

 Ffon: 03000 859032

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg