Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ffisiotherapi – Ymarfer Cyhyrysgerbydol Uwch
Gradd
Gradd 8a
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Mae 3 swydd amser llawn (37.5 awr) ar gael)
Cyfeirnod y swydd
100-AHP097-1026
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
I'w cadarnhau gyda'r ymgeisydd llwyddiannus
Tref
I'w cadarnhau gyda'r ymgeisydd llwyddiannus
Cyflog
£58,379 - £65,723 Y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
26/10/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
10/11/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Uwch-Ymarferydd Ffisiotherapi (Llwybr Cyhyrysgerbydol)

Gradd 8a

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae gennym gyfle cyffrous ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer tri Uwch-Ymarferydd Ffisiotherapi – dau yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin ac un yn Sir Benfro. Bydd y swyddi’n cefnogi datblygiad y llwybr cyhyrysgerbydol (MSK) drwy weithio i ddechrau o fewn y Gwasanaeth Asesu a Thrin Cyhyrysgerbydol Clinigol (CMATS). Wrth i lwybrau newid, bydd angen gweithio ar draws y llwybr MSK integredig, gan gynnwys meysydd fel Gofal Sylfaenol, gofal cleifion allanol a chlinigau rhyngwyneb MSK, yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth.


Bydd y swyddi yn Sir Gaerfyrddin wedi'u lleoli'n bennaf yn y cyfleuster newydd yn Pentre Awel, gyda chlinigau ychwanegol mewn lleoliadau eraill ledled Sir Gaerfyrddin (gan gynnwys safleoedd Dyffryn Aman, Cross Hands a Hafan Derwen). Bydd y swydd yn Sir Benfro wedi'i lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, gyda chlinigau posibl yn Ysbyty De Sir Benfro ac Ysbyty Bwthyn Dinbych-y-pysgod. Mae'r holl leoliadau yn dibynnu ar y galw am y gwasanaeth.

Mae Bwrdd Iechyd y Brifysgol yn gweithio tuag at ddatblygu llwybr cwbl integredig, ac fel rhan o'r weledigaeth hon, bydd angen i ddeiliad y swydd weithio'n agos gyda'r tîm gofal sylfaenol MSK presennol, y gwasanaeth ffisiotherapi MSK craidd, a'r Gwasanaethau Asesu a Thrin Cyhyrysgerbydol Clinigol (CMATS). Bydd yn cynnig cyfle cyffrous i ehangu ffiniau ymarfer ffisiotherapi drwy weithio ar hyd y llwybr MSK cyfan, datblygu rhwydweithiau clinigol cryf a symleiddio llwybrau gofal i'n cleifion.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae deiliad y swydd yn cael ei ystyried yn arbenigwr clinigol, ac mae angen iddo gynnal proffil clinigol uchel gan sicrhau darpariaeth gofal effeithiol ac effeithlon.

Ar y lefel hon, disgwylir i bob deiliad swydd weithio fel uwch-ymarferydd hynod fedrus a meddu ar wybodaeth arbenigol.

Prif ffocws y rôl yw gweithio fel uwch-ymarferydd annibynnol sy'n darparu gofal clinigol sy'n canolbwyntio ar y claf, gan ymgorffori sgiliau asesu, archwilio, gwneud diagnosis, trin ac adsefydlu cleifion o ran cyflyrau cyhyrysgerbydol. Nod y swyddi yw sicrhau canlyniadau gwell i gleifion drwy wella prydlondeb a chysondeb y gofal.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cefnogi datblygiad y gwasanaeth hwn gan ddarparu arweinyddiaeth a chyflenwi gwasanaethau clinigol. Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig a llawn cymhelliant sydd â sgiliau arweinyddiaeth profedig a phrofiad o weithio ar lefelau Cwmpas Estynedig neu Ymarfer Uwch. Mae hyfforddiant lefel MSc yn hanfodol.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir cyfweliadau ar 10/11/2026.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Ffisiotherapydd cofrestredig gyda'r HCPC
  • Gradd Meistr berthnasol neu brofiad cyfatebol mewn maes perthnasol
  • Gwybodaeth arbenigol uwch am lwybrau cleifion
  • Gwybodaeth ddamcaniaethol uwch a phrofiad ymarferol i gynnal ymgynghoriad clinigol a/neu archwiliad sy'n berthnasol i'r ymarfer
  • Tystiolaeth o gynnal portffolio Ymarfer Clinigol Uwch
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster rheoli/arweinyddiaeth neu feddu ar sgiliau a phrofiad cyfatebol
  • Yn meddu ar Awdurdodiad Annibynnol ar gyfer Cynhyrchion Gwaed, neu'n gweithio tuag ato (os yw'n berthnasol i'r rôl)
  • Rhagnodwr anfeddygol
  • Therapi Chwistrellu Cyhyrysgerbydol
  • Hyfforddiant IRMER
  • Gwneud ceisiadau annibynnol am archwiliadau radiolegol, neu barodrwydd i gwblhau'r hyfforddiant perthnasol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad clinigol helaeth ôl cofrestru ym maes ymarfer uwch o fewn arbenigedd penodol
  • Tystiolaeth o weithredu ar Lefel Uwch o Ymarfer
  • Hanes profedig o weithio ar y cyd â thimau amlddisgyblaethol

Other

Meini prawf hanfodol
  • Yn meddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
James Farrington
Teitl y swydd
CMATS Service Lead Pembrokeshire & Ceredigion
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Catrin Hawthorn

Arweinydd Gwasanaeth CMATS Sir Gaerfyrddin

[email protected]

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg