Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gwasanaeth Meddygaeth Acíwt
- Gradd
- Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (10 sessiwn)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-MED-PPH-141-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £114,099 - £166,585 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 20/09/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Acíwt a Chyffredinol
Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r Adran Meddygaeth Acíwt yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn awyddus i recriwtio meddyg ymgynghorol brwdfrydig ac ymroddedig mewn Meddygaeth Acíwt a Chyffredinol. Swydd lawn-amser, barhaol yw hon. Mae’n swydd newydd, sy'n dod â chyd-weithwyr ynghyd mewn adran ddynamig a blaengar i ddatblygu gwasanaeth Meddygaeth Acíwt 7 niwrnod cynhwysfawr ar draws Ysbyty'r Tywysog Philip a'r Bwrdd Iechyd ehangach.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain o ran asesu meddygol a thrin cleifion “wrth y drws ffrynt”, gan gynnwys cleifion meddygol yr Uned Asesu Meddygol Acíwt (AMAU) a Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod (SDEC), ac yn darparu clinigau arbenigol “mynediad sydyn”. Bydd hefyd yn rhan o ddatblygiad a strategaeth y Ganolfan Gofal Brys newydd.
Rydym yn chwilio am gyd-weithiwr sydd â diddordeb mewn Meddygaeth Acíwt yn brif ymrwymiad ond byddwn yn cefnogi ymgeiswyr sydd am barhau â diddordebau clinigol neu weithio mewn rolau cyswllt ag arbenigeddau meddygol eraill.
Mae’r swydd wedi’i lleoli’n bennaf yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli gyda'r cyfle i weithio'n agos gyda chyd-weithwyr o bob rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu gwasanaeth mewn Meddygaeth Acíwt gyda chyd-weithwyr ymgynghorol eraill i oruchwylio gofal cleifion meddygol o fewn AMAU a SDEC ar drefniant cylchdro, yn ogystal â chefnogi'r gwaith o ddatblygu diddordeb is-arbenigedd os yw'n berthnasol. Mae disgwyl hefyd iddo gymryd rhan yn y rota meddygol ar alwad yn Ysbyty'r Tywysog Philip, a hynny ar sail 1:11.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn croesawu ceisiadau gan feddygon yn y DU, rhai rhyngwladol a rhai ar y llwybr CESR ar gyfer swydd barhaol, lawn-amser i Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Acíwt a Chyffredinol yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli.
Mae'r rôl newydd hon yn rhan o ehangiad sylweddol y gwasanaethau Meddygaeth Acíwt ac yn cynnig cyfle prin i ddatblygu gyrfa uwch yn y GIG gan fwynhau un o'r ffyrdd o fyw mwyaf deniadol yn y DU. P'un a ydych eisoes yn gweithio yn y GIG neu'n ystyried symud o dramor, mae Hywel Dda yn cynnig amgylchedd cefnogol, cynhwysol a gwerth chweil yn broffesiynol lle gall clinigwyr ffynnu.
Pam Dewis Hywel Dda ar gyfer Eich Gyrfa a'ch Ffordd o Fyw?Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn unigryw o ran cyfuno ymarfer clinigol o safon a chydbwysedd gwirioneddol rhwng bywyd a gwaith.
Mae Ysbyty'r Tywysog Philip yn gwasanaethu cymunedau croesawgar Sir Gaerfyrddin, sef ardal sy'n enwog am y canlynol:
• Arfordir a thraethau eithriadol o fewn cyrraedd hawdd
• Parciau cenedlaethol, cefn gwlad a gweithgareddau awyr agored gerllaw
• Tai fforddiadwy o gymharu â dinasoedd mawr y DU
• Amseroedd cymudo byr a fawr ddim tagfeydd traffig
• Cymunedau diogel, sy'n gyfeillgar i deuluoedd, ac ysgolion lleol da
• Ymdeimlad cryf o gymuned, diwylliant a threftadaeth
Mae llawer o glinigwyr yn dewis symud i Hywel Dda i gefnu ar amgylcheddau trefol dan bwysau mawr, adennill cydbwysedd, ac ymarfer meddygaeth mewn lleoliad sy'n gwerthfawrogi cynaliadwyedd, llesiant a gofal sy'n canolbwyntio ar y claf.
Y Rôl
A chithau’n Ymgynghorol, byddwch yn uwch-benderfynwr clinigol wrth ddrws ffrynt yr ysbyty, sy'n arwain y gwaith o asesu, rhoi diagnosis a thrin cleifion meddygol acíwt ar draws:
• Yr Uned Asesu Meddygol Acíwt (AMAU) 24 gwely
• Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod (SDEC)
• Yr Uned Mân Anafiadau (MIU)
• Clinigau arbenigedd mynediad sydyn, sy'n cefnogi osgoi derbyn i’r ysbyty a chamau dilynol cyflym.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol o ran datblygu Canolfan Gofal Brys newydd, y bwriedir ei hagor yn 2026, ac yn cyfrannu at gyflawni gwasanaeth Meddygaeth Acíwt 7 niwrnod cynhwysfawr ar draws Ysbyty'r Tywysog Philip a'r Bwrdd Iechyd ehangach.
Yr Amgylchedd Clinigol a Chymorth
Byddwch yn gweithio mewn gwasanaeth Meddygaeth Acíwt cefnogol a datblygol, gan elwa ar y canlynol:
• Cyfranogi mewn rota meddygol ar alwad 1:11 a gefnogir yn dda
• Cymorth meddygon preswyl gan gynnwys meddygon Sylfaen, Cymrodyr IMT/Clinigol ac Uwch Gymrodyr Clinigol
• Diagnosteg fodern gan gynnwys CT, MRI, uwchsain ac angiograffeg
• Lle swyddfa pwrpasol a chymorth gweinyddol
Mae yna hefyd hyblygrwydd i fynd ar drywydd neu ddatblygu diddordebau is-arbenigedd neu gyswllt, gan gynnwys:
• Meddygaeth Cardioleg, Anadlol neu Arennol
• Meddygaeth Geriatrig
• Strôc neu Niwroleg
• Oncoleg neu Hematoleg Acíwt
• Endocrinoleg
Gellir ymgorffori'r diddordebau hyn trwy drafodaethau ynghylchcynllunio swyddi a datblygu gwasanaethau.
Addysgu, Arwain a Datblygu Gyrfa
Mae addysgu ac arwain yn rhan annatod o'r rôl. Mae'r cyfrifoldebau'n cynnwys:
• Addysgu a goruchwylio hyfforddeion israddedig ac ôl-raddedig
• Bod yn Oruchwyliwr Addysgol
• Arwain a chyfrannu at archwilio clinigol a gwella ansawdd
• Hyrwyddo ymarfer seiliedig ar dystiolaeth a diogelwch cleifion
Gall uwch feddygon sydd newydd eu penodi hefyd gyrchu Rhaglen Datblygu a Mentora Meddygon Ymgynghorol Hywel Dda, sy’n cynnig hyfforddi gweithredol, hyfforddiant arwain a mentora, sy’n cydredeg â Fframwaith Cymhwysedd Arweinyddiaeth Feddygol y GIG.
Ein Gwerthoedd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymrwymo i gyflawni gofal cynhwysol, tosturiol sy'n canolbwyntio ar y claf. Croesawn geisiadau gan feddygon o bob cefndir a llwybr gyrfa, ac rydym wedi ymrwymo i greu gweithle lle mae pawb yn teimlo wedi’i werthfawrogi a’i gefnogi, a lle y gall ddatblygu.
Ymholiadau ac Ymweliadau Anffurfiol
Anogir trafodaethau neu ymweliadau anffurfiol yn frwd. Gellir trefnu sgyrsiau rhithwir hefyd ar gyfer ymgeiswyr tramor.
Dr Scott O’Rourke
Meddyg Ymgynghorol ym maes Meddygaeth Anadlol ac Arweinydd Meddygaeth Acíwt
Ysbyty'r Tywysog Philip
Ffôn: +44 (0)1554 756567
Dr Robin Ghosal
Cyfarwyddwr Ysbyty – Ysbyty’r Tywysog Philip ac Ysbyty Glangwili
Ffôn: +44 (0)1554 756567
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Gweler y dolenni isod am fideos defnyddiol sy'n ymwneud â'r swydd hon:
Hywel Dda 3 Sir - https://youtu.be/9wTeZD4cQOw
Ffordd o fyw yng Nghymru –https://youtu.be/rICFhN-0_nY?si=9pFkL_BkfEiQLzAo
Rhaglen Ddatblygu Arweinyddiaeth Feddygol Hywel Dda –https://youtu.be/2fDHk9imTbo?si=OjYD8W41c-YNNVVA
Taith rhithwir - https://youtu.be/OvwKkiEtR3M
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymwysterau a Gwybodaeth
- Ar Gofrestr Arbenigol y GMC (gan gynnwys trwy Lwybr Portffolio (CESR)/Hawliau'r Gymuned Ewropeaidd) neu bydd disgwyl CCT o fewn chwe mis i ddyddiad y cyfweliad.
- Sgiliau Cynnal Bywyd Uwch Ardystiedig a Dilys.
- Pan fo diddordeb is-arbenigedd yn ofynnol, dylai hyfforddiant is-arbenigedd fod i lefel sy'n briodol ar gyfer ymarfer ymgynghorol is-arbenigol y DU - cymrodoriaeth neu brofiad lefel gyfatebol.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster(au) Uwch ychwanegol.
Profiad Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Profiad eang o fewn y maes arbenigedd.
- Gallu dangos cymwyseddau craidd a sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd.
- Profiad o arwain tîm.
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio yn y DU neu'r GIG.
Llywodraethu Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth o rôl Llywodraethu Clinigol.
- Cyfranogiad mewn archwiliad clinigol (neu brosiect gwella ansawdd) a deall rôl archwilio wrth wella ymarfer meddygol.
- Gwybodaeth am y broses flynyddol o adolygu cynllunio/arfarnu swyddi
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am reoli risg.
Addysgu
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i asesu'n feirniadol gofynion dysgu ar gyfer eich hun ac eraill.
- Tystiolaeth o drefnu rhaglenni ac addysgu pob grŵp staff.
- Parodrwydd i addysgu pob gradd o staff amlddisgyblaethol proffesiynol.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu.
Ymchwil ac Ysgolheictod
Meini prawf hanfodol
- Arddangos gwybodaeth am ymchwil gyfredol ac arfer gorau yn y maes arbenigedd.
- Tystiolaeth o gadw'n gyfredol â'r ymchwil a'r arfer gorau.
- Tystiolaeth o leoli a defnyddio canllawiau clinigol yn briodol.
- Tystiolaeth o gyfathrebu a dehongli tystiolaeth ymchwil mewn ffordd ystyrlon.
Meini prawf dymunol
- Cyfranogiad gweithredol mewn ymchwil.
Arall
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg (Lefel 1)
Diogelu
Meini prawf hanfodol
- Dangos gwybodaeth am ofynion diogelu a chymryd cyfrifoldeb priodol.
- Tystiolaeth o gymhwyso deddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth briodol.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- David Lewis
- Teitl y swydd
- Senior Service Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 781115
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Meddygol a Deintyddol neu bob sector





