Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cynorthwyydd Arlwyo
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 15 awr yr wythnos (5 x 3 awr (gyda'r nos) dydd Llun i ddydd Gwener)
Cyfeirnod y swydd
100-EA073-0926
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£26,300 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
27/09/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
07/10/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Cynorthwyydd Arlwyo

Gradd 2

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Ar hyn o bryd, mae'r adran arlwyo yn bwriadu recriwtio un Cynorthwywyr Arlwyo sy'n awyddus i ymuno â thîm mawr o unigolion yn yr adran i ddarparu gwasanaethau glanhau ac arlwyo effeithiol ac effeithlon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan hanfodol yn y tîm trwy sicrhau bod y bwyd yn cael ei baratoi a'i gyflenwi a bod yr adran yn cael ei glanhau i'r safon uchaf.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r contract fel a ganlyn: 15 awr (gyda'r nos) sy'n cynnwys 5 shifft glanhau 3 awr o ddydd Llun i ddydd Gwener yn Adran Arlwyo Ysbyty Glangwili

Mae yna hefyd gyfle i weithio oriau ychwanegol pan fo staff ar wyliau blynyddol ac yn achos absenoldeb oherwydd salwch, a hynny naill ai yn Uned Ddydd y Priordy neu yn adran arlwyo'r ysbyty

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 97 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar 07.10.2026

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Yn Lythrennog a rhifog
  • Iechyd a Diogelwch Sylfaenol, COSHH, Symud a Chodi a Chario (hyfforddiant yn y gwaith)
  • Diogelwch bwyd lefel 2 neu gyfwerth
Meini prawf dymunol
  • Lefel dda o addysg gyffredinol
  • NVQ 2
  • Cymhwyster y Cynllun Croeso

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio ym maes lletygarwch neu mewn amgylchedd cegin
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddelio a'r cyhoedd
  • Profiad o weithio yn amgylchedd cegin fawr

Sgiliau iaith

Meini prawf dymunol
  • Sgiliau Cymraeg (Lefel 1 )

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Richard Daniel
Teitl y swydd
Catering Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227050
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg