Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Domestig
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol: Mae contractau ar gael yn 2 x 15 awr ac 1 x 30 awr yr wythnos
Oriau
Rhan-amser - 37.5 awr yr wythnos (Amryw o oriau a shifftiau (07:00 - 15:00; 10:00 – 18:00; 11:30 - 19:30; 14:00 - 22:0; 22:00 - 06:30) i gynnwys yn ystod yr wythnos, penwythnosau a gwyliau banc ar rota)
Cyfeirnod y swydd
100-EA085-1026
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£26,300 pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
25/10/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
03/11/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Cynorthwyydd Domestig

Gradd 2

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

A ydych yn mwynhau cwrdd â phobl ac yn cael boddhad o wneud gwaith sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn? Os felly, cysylltwch â ni, oherwydd rydym yn cynnig amodau gwaith rhagorol i Cynorthwyydd Domestig  yn Ysbyty'r Tywysog Bronglais.

Rydym yn chwilio am unigolyn hunanysgogol a fydd yn gweithio'n rhan o dîm ac ar ei ben ei hun. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan lawn yn y tîm cymorth. 

2 x 15 awr swyddi ar gael - 11:30-19:30 i gynnwys penwythnosau a gwyliau banc

1x 30 awr - Mae amryw o batrymau shifft ar gael gyda’r potensial i weithio gyda’r nos yn ôl trefnrota i gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd prif ddyletswyddau’r rôl yn cynnwys:

Ymgymryd â thasgau glanhau arferol neu frys/heb eu cynllunio mewn ardaloedd cleifion mewnol, cleifion allanol a'r adrannau, dilyn amserlenni glanhau a gweithdrefnau rheoli heintiau;  cefnogi gwasanaeth arlwyo ar y wardiau.

Rydym yn cynnig hyfforddiant cynefino llawn, wedi'i ddilyn gan raglen hyfforddi eang, lle bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael hyfforddiant ar bob agwedd ar y gwasanaeth. 

Bydd gofyn i chi ddefnyddio amrywiaeth o offer.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi ei staff i goleddu'r angen am ddwyieithrwydd yn llawn, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol lleiaf hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cynhelir y cyfweliadau ar 03/11/2026

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu amlygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a dealltwriaet
  • Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch sylfaenol, COSHH, Symud a Chodi a Chario, a Hylendid Bwyd, neu barodrwydd i ddysgu trwy hyfforddiant yn y swydd
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, COSHH, Symud a Chodi a Chario

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu gweithio'n hyblyg yn ôl y gofyn
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Profiad

Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddelio â'r cyhoedd

Sgiliau a Phriodweddau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu da
  • Yn gallu deall a dilyn cyfarwyddiadau arferol
  • Yn gallu gweithio dan bwysau ac ymateb i ofynion sy'n newid ar fyr rybudd
  • Yn dangos brwdfrydedd a pharodrwydd i weithio fel Gweithiwr Domestig
  • Yn barod i weithio ar eich pen eich hun
  • Yn barod i drin gwaed a hylifau'r corff
  • Yn gallu defnyddio'ch menter eich hun
  • Yn gallu gweithio fel rhan o dîm
  • Yn barod i fod yn gyfrifol am allweddi/diogelwch/larwm

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Denise Thomas
Teitl y swydd
Soft Facilities Management Officer
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
0300 4307972
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg