Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Arlwyo
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol: Parahol
Oriau
Rhan-amser - 15 awr yr wythnos (Bydd y sifftiau yn cynnwys oriau 7:30yb tan 3:30yp ar ddau ddiwrnod yr wythnos dros gylch rota 7 wythnos.)
Cyfeirnod y swydd
050-EA225-1026
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
NWAS
Tref
Abergele
Cyflog
£26,300 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/10/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cynorthwyydd Arlwyo

Gradd 2

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Trosolwg o'r swydd

Pwrpas cyffredinol y swydd yw gweithio fel rhan o dîm ac ymrwymo i gyfrannu at ddarparu gwasanaeth arlwyo o’r radd flaenaf i gleifion a staff yn y Bwrdd Iechyd.

Rhannu arfer gorau sydd wedi'i ddysgu gydag eraill i ddatblygu gwasanaethau arlwyo wrth i newidiadau gael eu gwneud dros amser er mwyn caniatáu i'r adran ac unigolion ymateb i angen sy'n newid. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr oriau gwaith yn 7:30yb tan 3:30yp am ddau ddiwrnod o fewn rota saith wythnos. Bydd hyn yn cynnwys gweithio ar benwythnosau a phatrymau shifft amrywiol, gan gynnwys shifftiau cynnar a hwyr, yn unol ag anghenion y gwasanaeth. Mae'n debygol y bydd mwy o shifftiau hwyr na shifftiau cynnar.

Bydd cyfradd uwch o dâl yn cael ei thalu am yr holl oriau a weithir ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc.

Rhaid bod gennych sgiliau cyfathrebu da, gan y byddwch yn gweithio yn y gegin ac yn gweini bwyd ar lefel ward. Rhaid i ymgeiswyr allu dangos y gallu i weithio'n hyblyg ac ar eu liwt eu hunain.

Bydd gennych dystysgrif hylendid bwyd lefel 2 gyfredol, neu byddwch yn barod i weithio tuag at y cymhwyster hwn. Mae profiad arlwyo yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a’r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Sgiliau

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Adele Morris
Teitl y swydd
Assistant Catering Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 846285
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg