Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Rhaglen Sgriniuo Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol: Swydd Hyfforddai
Oriau
Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (Dydd Llun i Dydd Gwener 08:30 i 17:00)
Cyfeirnod y swydd
028-ACS047-1026W
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llandudno
Tref
Llandudno
Cyflog
£28,819 - £31,626 y flwyddyn pro rata dan Atodiad 21
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
05/11/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
20/11/2026

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru

Gradd 4

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn ac Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


Nodyn Pwysig ar gyfer swyddi a gaiff eu cynnig ar sail tymor penodol neu secondiad.

Gall unigolion sydd â swydd barhaol (sylfaenol) yn y GIG ond gael eu penodi drwy secondiad. Bydd angen i’ch Rheolwr llinell presennol roi cymeradwyaeth ar gyfer secondiad cyn gellir cyflwyno cais.

 


 

Trosolwg o'r swydd

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

1 x swydd Band 4 ar gael ar gyfer Sgriniwr AAA dan hyfforddiant.Swydd rhan-amser 30 awr yw hon.

Cwmpesir y swyddi hyn o dan drefniadau cyflog Atodiad 21 y GIG. Bydd hyn yn golygu trefniant dim anfantais i weithwyr presennol y GIG. A  parhad uchafswm y cyflog presennol i frig Band 3 am gyfnod yr hyfforddiant. Unwaith y bydd yr hyfforddiant wedi'i gwblhau, mae'r cyflog yn symud i waelod Band 4 ac mae'r dyddiad codiad yn newid i adlewyrchu hyn. Ymgeiswyr y tu allan i’r GIG, mae’r trefniant cyflog 75% ar frig Band 4 am gyfnod yr hyfforddiant, er y gellir gwneud cais am gredyd am brofiad perthnasol i fynd â’r cyflog i frig Band 3.

Rhoddwyd Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru ar waith ar 1 Mai 2013 marwolaethau gysylltiedig a AAA ynh y boblogaeth gymwys, hynny yw, dynion 65 oed sy’n byw yng Nghymru.

Bydd disgwyl i'r sgriniwr dan hyfforddiant gyflawni'r diploma lefel 4 mewn sgrinio AAA a diploma lefel 3 mewn hanfodion sgrinio iechyd. Mae'r hyfforddiant yn cynnwys asesiadau academaidd ac ymarferol. Bydd y rôl yn cwmpasu rhanbarth Gogledd Cymru, gyda gofyniad achlysurol i deithio i ranbarthau eraill yng Nghymru. Unwaith y bydd yr hyfforddiant wedi'i gwblhau bydd deiliad y swydd wedyn yn dod yn sgriniwr AAA parhaol.  Mae'r rôl hon yn gofyn am gydsymud llaw a llygad rhagorol.

Bwriedir cynnal cyfweliadau ym Clwydian House, Wrexham

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd y Sgriniwr yn rhoi gwybodaeth briodol i ddynion sy'n mynd i glinigau sgrinio a gwyliadwriaeth yn y gymuned, yn enwedig pan fo rhwystrau i ddeall yn bodoli. Bydd y Sgriniwr yn sicrhau bod dynion sy'n mynychu clinigau yn cael yr holl wybodaeth berthnasol ac yn gwybod am oblygiadau sgrinio AAA cyn iddynt roi cydsyniad ar sail gwybodaeth.

Cynnal archwiliad uwchsain abdomenol i benderfynu a oes ymlediad yn bresennol ai peidio a rhoi'r canlyniadau a'r cyngor priodol.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Iechyd Cyhoeddus Cymru ydym ni – y sefydliad iechyd y cyhoedd cenedlaethol i Gymru. Ein pwrpas yw ‘Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru Iachach’. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Gyda'n partneriaid, rydym yn gweithio i gynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Mae ein timau'n gweithio i atal clefydau, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd y cyhoedd. Ni yw prif ffynhonnell gwybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd y cyhoedd yng Nghymru.  Mewn byd sy'n wynebu heriau iechyd cymhleth, nid yw ein gwaith erioed wedi bod mor bwysig. 

Rydym yn cael ein harwain gan ein Gwerthoedd, 'Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle cynhwysol sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac sy'n cefnogi trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys rolau rhan-amser a rhannu swyddi.

I gael gwybod rhagor am weithio i ni a’r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gallwch ddod o hyd i Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch ar “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.

 

Manyleb y person

CYMWYSTERAU

Meini prawf hanfodol
  • Safon dda o addysg gyffredinol (5 TGAU neu gyfwerth, gan gynnwys Saesneg Iaith, Mathemateg gradd C neu uwch)
  • NVQ 3 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant arbenigol a chyrsiau byr i lefel Diploma.

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Rhaid dal trwydded yrru lawn y DU
  • Bydd hi’n ofynnol i ddeiliad y swydd deithio i sawl lleoliad fel rhan o’i rôl.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gweithio gyda phobl
  • Deall gofal a chyfrinachedd cleifion.
  • Deall sut i ddefnyddio cyfrifiaduron personol.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn rhaglen sgrinio sy’n bodoli
  • Wedi gweithio mewn lleoliad fasgwlaidd neu radiograffeg
  • Yn deall amgylcheddau gofal iechyd
  • Yn deall terminoleg feddygol a ddefnyddir yn aml
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd clinigol

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Yn siarad ac yn ysgrifennu Saesneg yn glir
  • Llawysgrifen ddarllenadwy
  • Yn boleit ac yn amyneddgar
  • Sgiliau cyfathrebu da
  • Y gallu i weithio mewn tîm ac i gysylltu'n effeithiol â phobl ar bob lefel
  • Cydsymud ardderchog rhwng y llaw a’r llygad.
  • Sgiliau mewnbynnu data yn fanwl gywir
  • Sgiliau TG da
  • 3+ sgiliau Cymraeg. Gallu cynnal sgwrs am bynciau cyfarwydd.

GWYBODAETH

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am raglenni sgrinio
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am anatomeg a ffisioleg

Personol Rhinweddau (Amlwg)

Meini prawf hanfodol
  • Yn sensitif i anghenion y dyn.
  • Sgiliau trefnu da
  • Yn gallu gweithio o dan bwysau a chanolbwyntio wrth ddelio ag ymyrraeth gyson
  • Brwdfrydig
  • Cymhelliant

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Janet Lindsay Garnett
Teitl y swydd
Regional Nurse Coordinator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07725138238
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Samantha Roberts

Uwch Sgriniwr

[email protected]

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg