Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Canser
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC461-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Rheolwr Gweinyddol Gwasanaethau Canser
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Cynnig cyfrifoldeb cyffredinol dros reoli'r tîm gweinyddol. Rheoli targedau cytunedig a bennir gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chyfeirio at driniaeth. Monitro cynnydd o ran dulliau rheoli gweinyddol a rhoi adborth wythnosol ar gyflawniadau a chydweithio i gynllunio i fodloni'r targedau hyn.
Gan weithio'n agos gydg aelodau eraill y Tîm Rheoli, mae gan ddeilydd y swydd gyfrifoldeb weithredol a rheolaethol uniongyrchol dros y staff gweinyddol, clercyddol ac ysgrifenyddol yn y tîm. Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd ganfod ffyrdd newydd a gwell o weithio ac i'w rhoi ar waith er mwyn helpu'r Tîm Rheoli i gyflawni amcanion gweithredol a strategol yr uwch adran. Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd lunio gwybodaeth reolaidd ac ad hoc i ategu at fonitro dangosyddion ansawdd a chyflawni amcanion allweddol yr uwch adran.
Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd weithio'n agos gyda chydweithwyr yn yr uwch adran ac adrannau eraill ar draws y Bwrdd Iechyd i hybu ymagweddau ar y cyd tuag at ddatrys problemau'n ymwneud â gwasanaethau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn rhinwedd y dyletswyddau, bydd deilydd y swydd yn gweithio o dan ei gymhelliant ei hun ar y cyfan, i ddelio â rheoli'r tîm o ddydd i ddydd, ac mae goruchwyliaeth anuniongyrchol ar gael dros y ffôn. Bydd gofyn i ddeilydd y swydd gadw cyfrinachedd llym a bydd disgwyl iddo/iddi ddelio ag aelodau eraill o staff, cleifion, gofalwyr, perthnasau, staff meddygol ac ymwelwyr eraill â’r Adran, yn bersonol ac ar bapur, a hynny’n gwrtais a chan ddefnyddio disgresiwn bob amser.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg ffurfiol hyd at lefel Gradd neu brofiad cyfwerth.
- Cymwysterau Ôl-radd hyd at lefel Diploma neu uwch neu brofiad cyfwerth.
- Tystiolaeth o ddatblygiad/addysg proffesiynol a phersonol
Meini prawf dymunol
- Profiad ychwanegol hyd at lefel diploma ôl-radd neu gyfwerth
- Tystiolaeth o addysg lefel gradd meistr/ôl-radd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol o reoli
- Profiad o reoli staff a chyllidebau
- Gallu i reoli prosiectau ar lefel leol neu ranbarthol
- Gwybodaeth arbenigol am wasanaethau canser.
- Sgiliau uwch mewn pecynnau TG perthnasol (Word, Excel, PowerPoint, Access)
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am reoli'r gwasanaeth iechyd
- Yn siarad/yn ysgrifennu Cymraeg
Addasrwydd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau dylanwadu a thrafod
- Y gallu i rwydweithio
- Datblygu tîm
- Gallu i weithio ar eich liwt eich hun
- Sgiliau pendantrwydd Gallu addasu i dorri ar draws cyson
Aptitude and Abilities
Meini prawf hanfodol
- Yn dechrau pethau ac yn eu cwblhau
- Yn ffynnu wrth gael her
- Y gallu i gwrdd â therfynau amser llym
- Sgiliau llafar ac ysgrifenedig ardderchog
- Gwytnwch emosiynol
- Tystiolaeth o sgiliau arwain
- Gallu blaenoriaethu
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh
- Car Driver Ability to travel to various sites
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Harriet Rees
- Teitl y swydd
- Manager Cancer Services BCUHB
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 841150
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Harriet Rees
Rheolwr Gwasanaethau Canser BCUHB
03000 841150
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector