Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Arlwyo
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol: 37.5 Awr Contract
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (06:00-14:00, 07:00-15:00 & 13:00-21:00 Patrwm sifft 3 wythnos. Gall gynnwys penwythnosau.)
Cyfeirnod y swydd
050-EA138-0726
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Gwynedd
Tref
Bangor
Cyflog
£26,813 - £27,890 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
16/07/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Goruchwyliwr Arlwyo

Gradd 3

Trosolwg o'r swydd

Mae'r Adran Arlwyo yn Ysbyty Gwynedd yn darparu prydau, byrbrydau a diodydd i gleifion, staff ac ymwelwyr.

Mae'r goruchwyliwr Arlwyo yn aelod allweddol o'r tîm ac mae'n gyfrifol am gario ystod o ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu bwyd a gwasanaeth mewn amgylchedd prysur yn y gegin ac adwerthu.

Bydd y Goruchwyliwr Arlwyo yn gweithio'n agos gyda Chydlynydd a rheolwyr Arlwyo i sicrhau bod gwasanaethau Arlwyo yn bodloni gofynion maethol a dietegol perthnasol sy'n deillio o anghenion clinigol, crefyddol a diwylliannol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd cyfrifoldebau’r Goruchwyliwr Arlwyo yn cynnwys:

  • Goruchwylio staff
  • Sicrhau bod amgylchedd glân a diogel yn cael ei gynnal

Mae angen i’r Goruchwyliwr Arlwyo feddu ar sgiliau gwaith tîm da, arweinyddiaeth, cyfathrebu a threfnu. Rhaid iddynt fod yn hunan-ysgogol, yn gallu gweithio heb oruchwyliaeth, cael agwedd hyblyg tuag at newidiadau shifft, a dangos agwedd gyfeillgar a phroffesiynol.

Oriau gwaith rhwng 06:00 y bore a 21:00 yr hwyr, gyda thâl ychwanegol ar benwythnosau (Dydd Sadwrn a Dydd Sul).

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Medrau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Karen Roberts
Teitl y swydd
Assistant Catering Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 851185
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Ar gyfer manylion/pellach/ymweliadau arffurfiol cysylltwch: 

Andrea Townson
Ysbyty Maelor 
Ffion: 01978 725686

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg