Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Switsfwrdd
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-EA252-1126W
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £32,557 - £39,631 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 22/11/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Goruchwyliwr Tîm Switsfwrdd
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Oruchwyliwr Gwasanaethau Switsfwrdd profiadol a llawn cymhelliant i ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac i roi cymorth o ran cyflwyno gwasanaeth switsfwrdd cynhwysfawr o ansawdd uchel, 24 awr y dydd, saith niwrnod o'r wythnos. Bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn Ysbyty Gwynedd a bydd yn cynnwys cymryd rhan yn y rota ar alwad ar sail un wythnos ym mhob pedair, gyda chyfrifoldeb am bob un o'r tri safle ysbyty acíwt, gyda hyblygrwydd i gyflenwi ar safleoedd eraill pan fo prinder staff.
Byddwch yn gyfrifol am weithrediad effeithlon gwasanaethau switsfwrdd o ddydd i ddydd ar draws un neu fwy o safleoedd. Byddwch yn rhoi arweinyddiaeth a rheolaeth linell effeithiol i Arweinwyr y Tîm Switsfwrdd a gweithredwyr/gweithwyr galwadau, gan sicrhau bod lefelau staff priodol yn cael eu cynnal a bod datblygiad personol a phroffesiynol y tîm yn cael ei gynnal.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys rheoli rotâu, gwyliau blynyddol a phresenoldeb; ymgymryd ag adolygiadau o berfformiad; rhoi cymorth o ran recriwtio a dethol staff; trefnu sesiynau ymsefydlu, hyfforddiant gorfodol a hyfforddiant sy'n benodol i'r rôl; a mynd i'r afael â materion yn ymwneud â chysylltiadau gweithwyr yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r Bwrdd Iechyd. Byddwch yn monitro safonau gwasanaeth ac yn dadansoddi gwybodaeth yn ymwneud â pherfformiad galwadau, gan gynnwys cyfeintiau galwadau, amseroedd aros a chyfraddau gadael galwadau, er mwyn ategu dulliau rheoli perfformiad a gwelliant parhaus.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn helpu i gynnal manwl-gywirdeb a chyfanrwydd y switsfwrdd, y cyfeirlyfr ffôn a gwybodaeth am beiriannau galw, yn sicrhau bod cofnodion yn ymwneud ag offer a stoc yn cael eu cadw'n gyfredol, ac yn gweithio gyda thimau TGCh, staff cynnal a chyflenwyr trydydd parti i ddatrys namau'n ymwneud â'r switsfwrdd a thelathrebu'n brydlon. Byddwch hefyd yn rhoi cymorth i gydweithwyr ym maes Digidol, Data a Thechnoleg (DDAT) o ran prosiectau a datblygiadau gwasanaeth yn ymwneud â thelathrebu a gwasanaethau switsfwrdd, gan gyfrannu eich gwybodaeth a'ch arbenigedd gweithredol at gynllunio a chyflawni gwelliannau. Byddwch yn ymateb yn briodol i gwynion, yn rhoi cymorth o ran gweithdrefnau brys a phrofion, yn cyfrannu at ddatblygu polisi, ac yn nodi mentrau sy'n gwella arferion gwaith a darpariaeth gwasanaeth. Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y bydd gofyn i chi gyflenwi'n weithredol fel gweithredwr switsfwrdd sydd wedi'i hyfforddi'n llawn.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'n rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster addysg uwch, neu brofiad cyfatebol, ynghyd â phrofiad switsfwrdd sylweddol yn y GIG neu'r sector cyhoeddus ar lefel goruchwylio neu reoli. Bydd arnoch angen profiad o fod yn rheolwr llinell mewn sefydliad mawr sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid a gwybodaeth gyfredol gadarn am y switsfwrdd, peiriannau galw a thechnoleg telathrebu. Mae gwybodaeth am arferion rheoli staff, rheoli rotâu ac adrodd ar berfformiad yn ofynnol hefyd.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu cyfathrebu'n hyderus â chydweithwyr a rhanddeiliaid ar bob lefel, gweithio'n annibynnol, blaenoriaethu anghenion sy'n gwrthdaro a gwneud penderfyniadau doeth mewn amgylchedd sy'n brysur ac sy'n gallu bod yn heriol, weithiau. Byddwch yn drefnus, yn wydn, yn canolbwyntio ar gwsmeriaid ac yn ymrwymedig i waith tîm, safonau uchel a gwella parhaus. Mae angen hyblygrwydd a'r gallu i deithio rhwng safleoedd y Bwrdd Iechyd.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig.
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Sgiliau

Profiad

Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Amanda Weston
- Teitl y swydd
- Assistant Telecommunications Services Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector

.png)