Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweunyddiaeth
Gradd
NHS AfC: Band 4
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AC210-1026
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£28,819 - £31,626 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
11/10/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

PA i SACC a Rheolwr Rhwydwaith Fasgwlaidd

NHS AfC: Band 4

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Personol rhagweithiol, trefnus iawn ac ymroddedig i ddarparu gwasanaeth gweinyddol ac ysgrifenyddol cynhwysfawr i Reolwr y Rhwydwaith Fasgwlaidd a'r Gyfarwyddiaeth Lawfeddygol. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod y swyddfa'n gweithredu'n effeithiol o ddydd i ddydd, gan reoli dyddiaduron cymhleth, cydlynu cyfarfodydd, paratoi adroddiadau a gohebiaeth, a chefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion y gyfarwyddiaeth. 

Gan weithio mewn amgylchedd prysur a deinamig, byddwch yn gyfrifol am flaenoriaethu llwyth gwaith, trin gwybodaeth sensitif a chyfrinachol gyda'r lefel uchaf o ddisgresiwn, a gweithredu fel pwynt cyswllt allweddol ar gyfer ystod eang o randdeiliaid mewnol ac allanol. Byddwch yn defnyddio sgiliau cyfathrebu, trefnu a datrys problemau rhagorol i gefnogi uwch reolwyr, cydlynu gweithgareddau busnes a sicrhau bod terfynau amser a gofynion llywodraethu yn cael eu bodloni. 

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad sylweddol o ddarparu gwasanaeth gweinyddol neu gynorthwyydd personol ar lefel uchel, sgiliau rhagorol o ran cymryd cofnodion a rheoli dyddiaduron, a'r gallu i weithio'n annibynnol wrth gynnal agwedd broffesiynol sy'n canolbwyntio ar wasanaeth cwsmeriaid.

Prif ddyletswyddau'r swydd

    • Profiad o ddarparu gwasanaeth cynorthwyydd personol neu weinyddol cynhwysfawr ar lefel uwch. 
    • Sgiliau cyfathrebu, trefnu a rhyngbersonol rhagorol. 
    • Y gallu i reoli blaenoriaethau cystadleuol a gweithio'n annibynnol. 
    • Profiad o reoli dyddiaduron, cymryd cofnodion a pharatoi adroddiadau. 
    • Hyfedredd mewn rhaglenni Microsoft Office a systemau gweinyddol. 
    • Y gallu i drin gwybodaeth gyfrinachol gyda thact, diplomyddiaeth a disgresiwn. 

    Mae hwn yn gyfle gwych i weithiwr gweinyddol neu Gynorthwyydd Personol profiadol wneud cyfraniad gwerthfawr o fewn amgylchedd bywiog, cefnogol a chynhwysol yn y GIG.

 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Darparu gwasanaeth Cynorthwyydd Personol a gweinyddol cynhwysfawr i uwch reolwyr, gan gynnwys rheoli dyddiaduron, cydlynu cyfarfodydd, cymryd cofnodion, rheoli gohebiaeth, paratoi adroddiadau ac olrhain camau gweithredu. Bydd deiliad y swydd yn rheoli gwybodaeth sensitif, yn cysylltu ag ystod eang o randdeiliaid, yn cefnogi prosesau gweithlu a llywodraethu, ac yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau'n effeithlon ar draws y Rhwydwaith Fasgwlaidd a'r Gyfarwyddiaeth Lawfeddygol.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • NVQ3 Busnes a Gweinyddu neu brofiad cyfatebol
  • Graddau pasio TGAU mewn Saesneg a Mathemateg
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl a thrylwyr o weithdrefnau ysgrifenyddol, strwythur, polisïau, cynlluniau, rheoliadau, gweithdrefnau rheoli a gweithredol y Sefydliad.
Meini prawf dymunol
  • NVQ mewn Gweinyddiaeth neu gymhwyster cyfatebol
  • Cymhwyster ECDL
  • Clywdeipio
  • Tystysgrif ym maes goruchwylio neu reoli
  • Diploma mewn Gweinyddu Swyddfa neu brofiad hyd at lefel diploma
  • Gwybodaeth am y sefydliad

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad digonol ar lefel uchel o ddarparu gwasanaeth gweinyddol/cynorthwyydd personol cynhwysfawr
  • Profiad o greu a defnyddio systemau ffeilio/TG
  • Yn gyfarwydd â gweithdrefnau a therfynau amser swyddfa
  • Y gallu i gymryd cofnodion cynhwysfawr
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o weithio fel Gweinyddwr / Cynorthwyydd Personol i Gyfarwyddwr Gweithredol neu Uwch Reolwr cyfatebol
  • Profiad blaenorol o weithio yn y GIG

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog.
  • Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth a gwneud penderfyniadau.
  • Sgiliau trefnu
  • Sgiliau rhifedd a llythrennedd
  • Sgiliau teipio/prosesu geiriau
  • Sgiliau gofal cwsmeriaid ardderchog
  • Meistrolaeth dda ar y Saesneg, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad Cymraeg
  • Y gallu i lunio adroddiadau
  • Hyder ym mhob agwedd ar arferion swyddfa
  • Profiad o lunio graffiau ac ystadegau

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Cyfeillgar, ymagwedd broffesiynol
  • Agwedd hyderus
  • Dibynadwy
  • Addasadwy
  • Edrych yn smart.
  • Hunangymhelliant a brwdfrydig.
  • Y gallu i weithio dan bwysau
  • Y gallu i weithio fel rhan o dîm
  • Y gallu i ateb galwadau ffôn yn ddwyieithog
  • Ymagwedd hyblyg at ofynion y gweithle

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Linda Thomas
Teitl y swydd
PA to Director of Operations
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 846577
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg