Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Seicoleg Clinigol
- Gradd
- Gradd 7-8A
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-PST044-0426
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £50,129 - £65,723 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 14/05/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Seicolegydd Clinigol-Post datblygu 7-8A
Gradd 7-8A
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.
Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086
Trosolwg o'r swydd
Mae'r swydd hon yn gyfle cyffrous i Seicolegydd Clinigol sydd â diddordeb mewn iechyd corfforol ymuno â'r tîm arennol amlddisgyblaethol sydd wedi ennill ei blwyf yn Ysbyty Glan Clwyd.
Cynigir y swydd hon i'r sawl sy'n dymuno cyflwyno cais am swydd Seicolegydd Clinigol 8A ac i Seicolegwyr Clinigol Band 7 sydd newydd gymhwyso, fel swydd ddatblygu. Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau gan hyfforddeion yn ystod blwyddyn olaf eu hyfforddiant. Ar y ffurflen gais, nodwch deitl y swydd rydych chi'n ymgeisio amdani.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y swydd hon yn cynnwys gwaith uniongyrchol ac anuniongyrchol ac efallai y bydd cyfleoedd hefyd i ddatblygu grwpiau yn y gwasanaeth. Bydd deilydd y swydd hefyd yn cael cyfle i gyfranogi mewn gwaith ymgynghori a darparu hyfforddiant i gydweithwyr yn y tîm amlddisgyblaethol ehangach.
Mae'r gwasanaeth seicoleg arennol yn wasanaeth sefydledig sy'n rhan o dîm amlddisgyblaethol ynghyd â chydweithwyr o gefndir meddygol, nyrsio, gwaith cymdeithasol a dieteteg. Mae'r swydd yn cynnwys darparu ymyriadau uniongyrchol i gleifion a gofalwyr sy'n hysbys i'r gwasanaeth arennol, yn ogystal ag ymgynghori, hyfforddiant a chymorth i'r tîm amlddisgyblaethol ehangach.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon, ond mae'r un croeso i siaradwyr y Gymraeg a siaradwyr y Saesneg ymgeisio am y swydd.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Cefnogir ymchwil, gwaith gwella gwasanaethau a datblygiad proffesiynol parhaus yn y gwasanaeth ac mae'r gwasanaeth yn darparu lleoliadau clinigol ar gyfer hyfforddeion.
Bydd deilydd y swydd hefyd yn aelod o Adran Seicoleg Glinigol BIPBC. Mae hon yn adran gefnogol a chyfeillgar sy'n cynyddu, ac mae Seicolegwyr Clinigol yr adran yn gweithio mewn gwasanaethau iechyd corfforol ledled BIPBC. Mae gan yr adran gysylltiadau cryf hefyd â Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru.
Manyleb y person
Hyfforddiant a Chymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gradd Anrhydedd dda mewn Seicoleg. Yn gymwys i ennill statws siartredig gyda BPS.
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth ar lefel ddoethurol am gynllunio ymchwil a methodoleg ymchwil, gan gynnwys dadansoddi data amlamryweb cymhleth, fel y'i harferir ym maes seicoleg glinigol.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Caitriona Hughes
- Teitl y swydd
- Consultant Clinical Psychologist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 845687
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Dim ond yn gweithio Dydd Iau a Dydd Gwener
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector







.png)
