Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Newydd-anedig
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 12 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS576-0626
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £26,300 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 28/06/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Ty Croeso Cynorthwyydd Tŷ
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Cynorthwyydd Tŷ Gradd 6
Rhan-amser - 12 awr yr wythnos
Bydd deiliad y swydd yn gweithio i ddarparu cymorth a chefnogaeth i'r Rheolwr Tŷ er mwyn sichrau bod llety Tŷ Croeso yn rhedeg yn ddidrafferth. Byddant yn gyfrifol am gydlynu'r holl gyfleusterau/gwasanaethau teulu yn ardal yr Uned ac am sichrau amgylchedd glân, diogel a chyfforddus.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Ymgymryd â dyletswyddau dirprwyedig yn cynnwys defnyddio'r peiriant golchi dillad ac offer smwddio i sicrhau bod safonau cadw tŷ cyffredinol yn adlewyrchu cartrefi'r teuluoedd y mae angen iddynt aros yn Tŷ Croeso.
Derbyn, croesawu ac arwain ymwelwyr pan fyddant yn cyrraedd Tŷ Croeso, cydgysylltu ag aelodau eraill o staff fel y bo'n briodol.
Ymateb i geisiadau am wybodaeth gyffredinol.
Derbyn a throsglwyddo gwybodaeth i eraill, gan gadw cyfrinachedd bob amser.
Sicrhau y caiff cyfarpar ei storio'n ddiogel.
Sicrhau bod cegin y rhieni yn lân a bod stoc ynddi.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd deiliad y swydd yn gweithio i ddarparu cymorth a chefnogaeth i’r Rheolwr Tŷ wrth sicrhau bod llety Ty Croeso yn rhedeg yn esmwyth.
Byddant yn gyfrifol am gydlynu’r holl gyfleusterau/gwasanaethau teuluol yn ardal yr Uned ac am sicrhau amgylchedd glân, diogel a chyfforddus.
Deall pwysigrwydd gofal cwsmeriaid da a'i ddarparu.
Yn gallu cydymdeimlo â chleifion a'u teuluoedd.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) Lefel 2 neu brofiad cyfatebol
- Sgiliau bysellfwrdd sylfaenol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Hylendid Bwyd
- Cymhwyster TG
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio yn y Gwasanaeth Iechyd/Gwasanaethau Cyhoeddus
Meini prawf dymunol
- Profiad fel Swyddog Cadw Tŷ neu Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i gyfathrebu ag unigolion ar bob lefel
- Y gallu i gadw cyfrinachedd bob amser
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol
- Yn gallu dilyn cyfarwyddiadau a chyfarwyddebau
- Y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith heb oruchwyliaeth uniongyrchol
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Yn gwrtais, yn ofalgar ac yn gyfeillgar
- Ymddangosiad trwsiadus a thaclus
- Hyblyg a gyda'r gallu i addasu
- Ymwybyddiaeth o'ch cyfyngiadau eich hun
- Cyfrifol a dibynadwy
- Yn llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig
- Y gallu i weithio mewn amgylchedd dynamig
- Y gallu i adnabod a rheoli pwysau
- Ymdeimlad cryf o ymrwymiad i fod yn agored, gonestrwydd ac uniondeb wrth ymgymryd â'r rôl
- Sgiliau rheoli amser da
Meini prawf dymunol
- Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefel 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg (dilëwch fel y bo'n briodol)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Fiona Lewis
- Teitl y swydd
- Operational Lead Manager for Neonatal Services
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000844447
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







.png)
