Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferyllfa
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Cymryd rhan yng ngwasanaethau'r fferyllfa dros wyliau cyhoeddus a phenwythnosau fel bo angen)
Cyfeirnod y swydd
050-PST014-0126
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Glan Clwyd Hospital
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
12/02/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Fferyllydd Sylfaen

Gradd 6

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi’n fferyllydd newydd gymhwyso yn edrych am ddechrau cyffrous i’ch gyrfa? Ymunwch â’n tîm fferylliaeth cyfeillgar a chefnogol yng Ngogledd Cymru hardd! Datblygwch eich sgiliau clinigol a gwnewch wahaniaeth i ofal cleifion.

Cewch y cyfle i ennill profiad ar draws amrywiaeth o adrannau fferylliaeth ysbytai, a all gynnwys meysydd megis meddyginiaeth acíwt, llawfeddygaeth, gofal dwys, oncoleg a phediatreg. Gall eich cylchdroadau hefyd gynnwys gwasanaethau technegol (paratoad aseptig), dosbarthfa a chyflenwi meddyginiaethau a fydd yn rhoi sylfaen gynhwysfawr i chi ym maes gofal eilaidd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant strwythuredig trwy raglen fferyllydd sylfaen ôl-raddedig Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW), yn arwain at ennill cymwysterau Sefydliad Cymdeithas Fferyllol Frenhinol.
  • Cylchdroi ar draws sawl adran, gan ennill profiad mewn meysydd clinigol arbenigol a chyffredinol.
  • Gweithio o fewn timau fferylliaeth clinigol integredig i ddylanwadu ar benderfyniadau triniaeth a gwella canlyniadau cleifion.
  • Cyfrannu at wasanaethau technegol, dosbarthfa, a chyflenwi meddyginiaethau fel rhan o’ch datblygiad.
  • Ymgysylltu â chydweithio a chynnal ffocws cryf ar ofal cleifion.
  • Cofleidio cyfleoedd i ddysgu a ffynnu’n broffesiynol mewn amgylchedd gofal iechyd deinamig.

·       Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; croesewir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd MPharm neu gyfwerth
  • Aelod o’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
  • Gwybodaeth am fferylliaeth glinigol
  • Gwybodaeth dda am therapiwtig
  • Gwybodaeth am ffynonellau gwybodaeth electronig a rhai papur
Meini prawf dymunol
  • Aelod gweithredol o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol
  • MSc Ôl-Radd/ Diploma mewn Fferylliaeth Glinigol neu gyfatebol
  • Cymhwyster hyfforddi

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Mae'n rhaid gallu dangos lefel addas o brofiad o weithio yn y sector a rheoli a/neu fferyllfa gymunedol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o systemau meddyginiaethau sy'n canolbwyntio ar gelifion

Cymhwyster a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu da ar lafar/yn ysgrifenedig
Meini prawf dymunol
  • Gallu trefnu'n dda

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Cymryd rhan yng ngwasanaethau'r fferyllfa dros wyliau cyhoeddus a phenwythnosau fel bo angen
  • Parodrwydd i gymryd rhan yn rota ar alwad fel bo angen
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i symud rhwng safleoedd mewn ffordd amserol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Catherine Pollard
Teitl y swydd
Pharmacist Team Leader - Unscheduled Care
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 845363
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Jenny Sparks

Fferyllydd Gofal Lliniarol Macmillan

[email protected]

01745 583910 bib 4925

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg