Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddiaeth
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Llun i Gwener, 8:30 tan 4:30 (yn hyblyg))
Cyfeirnod y swydd
050-AC468-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Bodfan, near Ysbyty Eryri
Tref
Caernarfon
Cyflog
£24,433 - £26,060 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
13/07/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Derbynnydd a Chynorthwyydd Clercol Ffisiotherapi

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Gwasanaethau Therapi yn dymuno penodi unigolyn brwdfrydig iawn i weithio o fewn Adran Ddeieteg brysur ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn.

Bydd deiliad y swydd yn aelod o’r tîm gweinyddol, sy’n darparu gwasanaeth clerigol ac ateb y ffôn i’r Adran Ddeieteg, yn ogystal â chefnogaeth weinyddol i Wasanaethau Therapi.

Mae Gwasanaethau Therapi yn cynnwys Deieteg, Therapi Galwedigaethol, Ffisiotherapi, Podiatreg ac Orthoteg, Therapi Iaith a Lleferydd a Gweinyddiaeth. Mae gan bob ardal ei Bennaeth Gwasanaeth ei hun sy'n atebol i Gyfarwyddwr Ardal Gwasanaethau Therapi. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu cyfathrebu'n effeithiol, meddu ar sgiliau rhyngbersonol da, ac weithio mewn modd hyblyg a threfnus. Rhaid iddo/iddi feddu ar safon dda o addysg. Mae'r gallu i wneud sawl tasg ar yr un pryd yn bwysig.

Gall ymgeisydd addas nad yw'n llwyddiannus ar gyfer y rôl llawn amser gael ei gadw mewn cof ar gyfer rôl rhan-amser, yn amodol ar gymeradwyaeth. 

 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. 

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Addysg gyffredinol do
  • NVQ Lefel 3 neu wybodaeth/profiad cyfatebol
  • Cymwysterau TG neu brofiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft Office
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am systemau gweinyddol ysbytai, WPAS a systemau rheoli therapïau
  • Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL neu sgiliau cyfatebol)
  • Dealltwriaeth o derminoleg feddygol sylfaenol

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog (ysgrifenedig, ar lafar a thros y ffôn) yn Gymraeg (hyd at lefel 4 o leiaf) ac yn Saesneg
  • Sgiliau trefnu ardderchog
  • Yn gallu canolbwyntio ar ddyletswyddau gweinyddol mewn amgylchedd anrhagweladwy
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o ymrwymiad parhaus i ddatblygiad personol

Cyffredinol

Meini prawf hanfodol
  • Dim gwallau sillatu
  • Profiad perthnasol ac yn addas ar gyfer y rol
  • Lefel 4 neu 5 yn y Gymraeg

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn swyddfa brysur sy'n ymdrin â'r cyhoedd
  • Gwybodaeth am y Ddeddf Diogelu Data a deddfwriaeth berthnaso
  • Ymwybyddiaeth o gyfrinachedd cleifion
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o gofnodion meddygol neu brofiad clercol mewn ysbyty
  • Profiad o weithio'n uniongyrchol gyda staff clinigol/ymgynghorol
  • Profiad blaenorol o reoli rhestr aros

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Timothy Hoe
Teitl y swydd
Deputy Head of Dietetics West
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 851709
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg