Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddol a Chlerigol
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 15 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AC264-0726W
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Llandudno
Tref
Llandudno
Cyflog
£26,300 Y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
06/07/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cymorth Gweinyddol

Gradd 2

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i swyddog clerigol ymuno â'r tîm yn Ysbyty Llandudno. Diben y swydd hon yw darparu gwasanaeth gweinyddol a derbynfa effeithlon a chynhwysfawr i Ysbyty Llandudno.  Yr ymgeisydd llwyddiannus fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyfathrebu dros y ffôn. Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn nhimau gweinyddol Ysbyty Llandudno ynghyd â gweinyddydd y safle i ddarparu gwasanaeth gweinyddol di-dor i'r ysbytai cymunedol

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon

Prif ddyletswyddau'r swydd

Pwrpas y rôl yw:

  • Cynnig cymorth cyffredinol i ddarparwyr gwasanaethau a defnyddwyr a chreu delwedd bositif a chyfeillgar i gleifion ac ymwelwyr eraill, naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.
  • Derbyn cleifion, eu hasesu a'u cyfeirio o ran cael mynediad at y gwasanaeth neu'r gweithiwr proffesiynol gofal iechyd mwyaf priodol, yn gwrtais, effeithiol ac yn effeithlon.
  • Ymgymryd ag amryw o ddyletswyddau gweinyddol i gynorthwyo i redeg y Swyddfa Gyffredinol yn esmwyth, yn cynnwys darparu cefnogaeth glercyddol i staff clinigol ac aelodau eraill o'r tîm

·         Hwyluso cyfathrebu effeithiol rhwng cleifion, aelodau o'r tîm, gofal eilaidd, ac asiantaethau gofal iechyd a lles cysylltiedig eraill

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Chymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Safon TGAU C new uwch yn Saesneg a Mathemateg new brofian cyfatebol
  • NVQ Gweinyddiaeth Lefel 2 neu brofiad cyfatebol
  • Cymhwysterau prosesu geiriau / cyfrifiadur neu brofiad of ddefnyddio pecyn Microsoft
  • Prosesu geiriau OCR/RSA lefel 2 neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • AMSPAR- Lefel 3
  • ECDL

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol mewn rôl glercyddol, rôl weinyddol / derbynfa
  • Clywdeipio/Copideipio.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio yn y GIG

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Gallu defnyddio Word/Excel/ Outlook yn fedrus, a rheoli dyddiaduron electronig yn effeithiol
  • yfathrebu'n fedrus, yn effeithiol ac yn broffesiynol ar lafar ac yn ysgrifenedig gydag ystod o randdeiliaid.
  • Sgiliau trefnu rhagorol.
  • Gallu siarad Cymraeg

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Aelod brwd o dîm. Hawdd mynd ato / Cyfeillgar.
  • Cyfeillgar. Hyderus
  • Dibynadwy.
  • Datblygu eich arferion eich hun drwy fyfyrio a dysgu. Empathig

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Bridget Coburn
Teitl y swydd
Site Administrator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000851852
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg