Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Theatres
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC281-0926
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Y Rhyl
- Cyflog
- £28,819 - £31,626 Y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 07/10/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Cydlynydd Pecynnau Benthyg Orthopedig / Gweinyddwr System Omnicell
Gradd 4
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn trefnus a phroactif, i ymuno â’n tîm Theatr fel Cydlynydd Pecynnau Benthyg Orthopedig / Gweinyddwr System Omnicell. Mae’r rôl allweddol hon yn cefnogi darpariaeth ddiogel ac effeithlon o lawfeddygaeth orthopedig drwy gydlynu pecynnau benthyg arbenigol, rheoli systemau, rhestr eiddo theatrau, ac arolygu contractau offer a gwasanaethau. Drwy weithio’n agos gyda thîm clinegol, cydweithwyr caffael, a chyflenwyr allanol, byddwch yn helpu i sicrhau bod yr offer cywir ar gael ar yr amser cywir, gan ysgogi gwelliannau mewn rheoli stoc, yn effeithiol, a gwerth am arian.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu gwasanaeth citiau benthyg effeithiol drwy sicrhau bod gofynion y tîm llawfeddygol yn cael eu nodi a'u bod yn cael eu cynllunio mewn cydweithrediad â'r gwasanaeth amserlennu theatrau.
Datrys ymholiadau gan theatrau am gitiau benthyg o ddydd i ddydd.
Sicrhau bod y cit benthyg sydd ei angen ar gyfer rhestrau llawdriniaethau yn cael ei archebu mewn da bryd ac yn cael ei gofnodi'n briodol yn unol â'r broses.
Paratoi'r holl setiau benthyg ar gyfer HSDU drwy sicrhau bod yr holl offer wedi'i gynnwys yn unol â'r taflenni gwirio cyflenwadau, a rhoi cod bar ar bob hambwrdd a'i restru.
Cydgysylltu â chyflenwyr i gael costau llogi/dosbarthu cywir a chytuno ar ddyddiadau ar gyfer dosbarthu a chasglu citiau.
Derbynebu Archebion Prynu unwaith y bydd y cyflenwr wedi rhoi costau benthyca cywir.
Gwirio'r nwyddau Orthopedig a dderbynnir yn erbyn nodyn dosbarthu'r cyflenwr, e.e., Stores, WHS ac ati, am gywirdeb oes silff. Defnyddio System Omnicell lle y bo'n briodol.
Goruchwylio'r holl gontractau cyfarpar yn ogystal â chontractau cynnal a chadw a gwasanaethu ar gyfer cyfarpar meddygol arbenigol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Welsh
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am system restru a storio awtomataidd.
- Safon dda o addysg hyd at lefel TGAU neu gymhwyster cyfatebol.
- Profiad o reoli stoc.
- Gwaith tîm – Y gallu i ymdrin â staff ar bob lefel ac asiantaethau allanol.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am systemau Omnicell, gan gynnwys cyfluniad systemau a'r broses o'u rhoi ar waith yn weithredol, gyda'r gallu i ddarparu hyfforddiant i staff.
- Gwybodaeth am system archebu Oracle.
- Profiad o ddefnyddio'r System Omnicell.
Welsh
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau trefnu/rheoli amser a chyfathrebu ardderchog.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mark Beedie
- Teitl y swydd
- Theatre Systems Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000845602
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Cymorth neu bob sector







.png)
