Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyfreithiol
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Gweithio gartref neu o bell
- Cyfeirnod y swydd
- 043-AC161-0926W
- Cyflogwr
- GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Tŷ’r Cwmnïau
- Tref
- Caerdydd
- Cyflog
- £28,819 - £31,626 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 21/09/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Paragyfreithiwr Y Llys Gwarchod
Gradd 4
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Cliciwch yma am nesges gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr
Cliciwch yma i ddarganfod beth yw barn ein staff am PCGC
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau siarad a gwrando Cymraeg ar Lefel 3 (Canolradd/B1 CEFR), sy'n golygu y dylent allu cyfathrebu'n hyderus ac ymateb i ymholiadau yn y Gymraeg. Cynhelir rhan o'r cyfweliad yn y Gymraeg i asesu'r sgiliau hyn.
Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn is-adran o NWSSP sy'n darparu gwasanaeth cynghori cyfreithiol cynhwysfawr i'r GIG.
Mae gennym gyfle cyffrous i Baragyfreithiwr ymuno â'n Tîm Cleifion Cymhleth a bydd ffocws penodol ar waith y Llys Gwarchod. Byddwch yn cynorthwyo ein tîm o gyfreithwyr a chyd-baragyfreithwyr sy’n tyfu, sy'n cynghori ac yn cynrychioli GIG Cymru yn ei gyfanrwydd.
Mae'r mathau o achosion rydym fel arfer yn eu cynghori arnynt yn cynnwys:
Cydsynio a galluedd i oedolion a phlant
Defnyddio ataliaeth
Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (yn trosglwyddo’n fuan i Ddiogeliadau Amddiffyn Rhyddid)
Iechyd Meddwl
Penderfyniadau yn ymwneud â diwedd oes
Cwestau sy’n cynnwys materion iechyd meddwl neu Alluedd Meddyliol.
Mae'r Tîm yn arbenigwyr yn eu maes ac maent yn cael cyfarwyddyd rheolaidd mewn achosion newydd a phroffil uchel. Rydym yn gweithio'n agos gyda thimau Iechyd Meddwl, Anabledd Dysgu, Pediatreg, Nyrsio, a Gofal Dwys ein cleientiaid.
Rhaid i'r ymgeisydd delfrydol feddu ar sgiliau cyfathrebu da, dull hyderus o weithio, a dangos ein gwerthoedd craidd, ochr yn ochr ag empathi a sensitifrwydd wrth ddelio â natur bersonol yr achosion yr ydym yn delio â nhw.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn cynorthwyo i reoli achosion o ddydd i ddydd dan oruchwyliaeth agos Uwch Gyfreithiwr. Cewch gyfleoedd i gyfrannu at y tîm a’r teulu Cyfreithiol a Risg ehangach. Byddwch yn gyfrifol am agor ymholiadau newydd, cysylltu â chleientiaid a thystion, mynychu gwrandawiadau yn y llys a helpu tystion i lywio proses y llys. Bydd hyn yn cynnwys adolygu cofnodion/adroddiadau meddygol, drafftio llythyrau i gael tystiolaeth a chynorthwyo i baratoi cyngor i gleientiaid, datganiadau tystion, bwndeli llys, a chyfarwyddiadau i’r cwnsler.
Bydd angen i ddeiliad y swydd sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith da gydag amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, cydweithwyr yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg, swyddogion Llys, tystion ac arbenigwyr.
Mae rhywfaint o brofiad yn y Llys Gwarchod yn ddymunol ond yr hyn sy’n bwysig yw diddordeb gwirioneddol yn y maes gwaith hwn.
Gweithio i'n sefydliad
Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.
Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl.
Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.
Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb. I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/
Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd yn y Gyfraith (neu gyfwerth) neu gymwysterau CILEX cyfatebol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa.
Doniau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Gallu cyfathrebu ym mhob fformat.
- Y gallu i flaenoriaethu a threfnu eich gwaith eich hun
- Gallu adnabod eich galluoedd eich hun
- Gallu cysylltu a chyfathrebu â phersonél mewnol ac allanol ar bob lefel yn hyderus.
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o sgiliau gofal cleientiaid rhagorol
Arall
Meini prawf hanfodol
- Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau siarad a gwrando Cymraeg ar Lefel 3 (Canolradd/B1 CEFR). Mae hyn yn golygu gallu cyfathrebu'n hyderus wrth ymateb i ymholiadau yn Gymraeg.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Gavin Knox
- Teitl y swydd
- Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector












