Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- TG
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 025-AC271-1025
- Cyflogwr
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gweithio hybrid - Ty Glan Yr Afon
- Tref
- Caerdydd
- Cyflog
- £48,527 - £55,532 per annum
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 10/11/2025 23:59
Teitl cyflogwr
Rheolwr Cynorthwyol y Gyfarwyddiaeth
Gradd 7
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.
Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais. Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae rôl Rheolwr Cynorthwyol y Gyfarwyddiaeth yn cefnogi perfformiad y Gyfarwyddiaeth drwy reoli tîm a fydd yn darparu gwasanaethau yn y meysydd gweithredol canlynol:
- Metrigau Perfformiad, llywodraethu ac adrodd
- Recriwtio a Chadw, gan gynnwys dadansoddi'r gweithlu a chynllunio adnoddau
- Rheolaeth ariannol, gan gynnwys monitro ac adrodd
- Cyfathrebu ac ymgysylltu
- Gwella a Datblygu Gwasanaethau yn Barhaus
- Contractau a chaffael
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn gyfrifol am reolaet tîm Gwasanaeth Rheoli'r Gyfarwyddiaeth - adeiladu a chynnal y tîm, bod yn atebol am berfformiad y tîm gan sicrhau eu bod yn frwdfrydig, yn cydweithio ac yn gweithio'n dda.
Byddwch yn nodi rhwystrau, er enghraifft pobl, prosesau a thechnoleg, ac yn defnyddio eich ymreolaeth i helpu'r tîm i'w goresgyn ac annog a hwyluso gwelliant parhaus y tîm cyflawni.
Byddwch yn hyfforddi a mentora aelodau'r tîm ac eraill yn weithredol i gymhwyso'r offer a'r technegau mwyaf priodol i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel, ymatebol ac effeithlon.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn gorff cenedlaethol arbenigol ac yn rhan o GIG Cymru. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn GIG Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddarparu gwasanaethau digidol a data cenedlaethol sy’n cefnogi’r gwaith o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae gwasanaethau iechyd a gofal modern yn dibynnu ar offer digidol, data a gwybodaeth da. Mae IGDC yn rhedeg neu’n gweithio gyda mwy na 100 o wasanaethau ac yn darparu rhaglenni trawsnewid digidol cenedlaethol mawr i gefnogi hyn. Yn ogystal, mae IGDC yn darparu cyngor arbenigol mewn perthynas â seiberddiogelwch a llywodraethu gwybodaeth. Rydym yn rhoi’r offer digidol i staff rheng flaen sy’n eu helpu i ddarparu gofal mwy diogel a mwy effeithlon. Rydym hefyd yn rhoi offer digidol i gleifion a’r cyhoedd i reoli eu hiechyd a’u llesiant eu hunain yn well, gan rymuso pobl i fyw bywydau iachach. Rydym yn rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn, gan weithio i’r safonau uchaf i ddarparu ansawdd ac i wneud digidol yn rym er gwell ym maes iechyd a gofal.
Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gweler y swydd-ddisgrifiad ynghlwm lle gallwch ddod o hyd i fanylion pellach am y swydd a'i phrif gyfrifoldebau.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster lefel Meistr NEU brofiad cyfatebol
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
- Profiad rheoli newid/gwybodaeth/sgiliau Gwella Gwasanaeth
- Gwybodaeth am brosesau cynllunio busnes
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Rheoli Ôl-raddedig
- Profiad o ddefnyddio technegau ystwyth i reoli a blaenoriaethu gwaith
- Cymhwyster Rheoli Prosiectau
- Gwybodaeth ymarferol o systemau a strwythurau iechyd a gofal cymdeithasol ehangach, a pholisïau, gweithdrefnau a deddfwriaeth sy’n berthnasol i’r maes gwasanaeth
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o reoli timau sy’n darparu gwasanaethau lluosog.
- Profiad o reoli newid.
- Profiad o baratoi cynlluniau busnes gan ystyried cyllid, ansawdd, gweithgaredd, gweithlu a ffactorau sefydliadol.
- Profiad o reoli llwyth gwaith gweinyddol prysur gyda blaenoriaethau sy’n gwrthdaro â’i gilydd.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu cyfathrebu â phobl am faterion anodd/mewn sefyllfaoedd anodd ar draws ystod amrywiol o sefyllfaoedd
- Profiad o weithio mewn tîm ac adeiladu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol
- Profiad o ysgrifennu adroddiadau ar gyfer pwyllgorau lefel uchel a Byrddau
- Yn gallu defnyddio menter a brwdfrydedd i ddatrys problemau/datblygu gwasanaethau gan darfu cyn lleied â phosibl ar weithrediadau o ddydd i ddydd
Meini prawf dymunol
- Yn gallu siarad Cymraeg i safon lefel 1 neu uwch
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rachel Meese
- Teitl y swydd
- Head of User-Centred Design
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector
















