Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwasanaethau Gofal Sylfaenol
Gradd
Band 8c
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
043-AC096-0524
Cyflogwr
GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
4-5 Llys Charnwood
Tref
Caerdydd
Cyflog
£71,473 - £82,355 Y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
23/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau logo

Pennaeth Gwasanaethau Proffesiynol a Chlinigol

Band 8c

Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-

Cliciwch yma am nesges gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr:- Swyddi Gwag Cyfredol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

 Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- 

https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz

 Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM

 

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i uwch reolwr profiadol arwain, siapio a dylanwadu ar ein tîm Proffesiynol a Chlinigol sy’n canolbwyntio ar bobl yn yr Is-adran Gofal Sylfaenol.
Byddwch yn arwain y tîm Gwasanaethau Proffesiynol a Chlinigol yn strategol wrth reoli’r ddarpariaeth barhaus a’r datblygiad trawsnewidiol, dan ddylanwad Byrddau Iechyd GIG Cymru, Contractwyr Gofal Sylfaenol a Llywodraeth Cymru.
I lenwi’r rôl hon yn llwyddiannus, rydym yn chwilio am uwch reolwr profiadol sydd â hanes amlwg o gyflawni prosiectau moderneiddio a thrawsnewid ar draws amgylcheddau cymhleth.   Bydd gennych yr awdurdod a'r egni i gynghori a dylanwadu ar gydweithwyr a rhanddeiliaid ar y lefelau uchaf yn GIG Cymru, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill. Yn bwysicaf oll, bydd gennych awydd i lywio ac arwain y tîm trwy gyfnod cyffrous wrth i'n gwasanaethau barhau i dyfu.  Fel aelod allweddol o Uwch Dîm Rheoli Gwasanaethau Gofal Sylfaenol, rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phrofiad o weithio mewn amgylcheddau cymhleth, system gyfan a gwleidyddol sensitif ac sy’n gallu dangos arddull arweinyddiaeth cynhwysol sy’n ysbrydoli eraill. 
Os ydych chi o’r farn y gallwch chi wneud gwahaniaeth a sicrhau gwerth gwirioneddol i Gymru, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan annatod fel rhan o uwch dîm rheoli’r Gwasanaethau Gofal Sylfaenol wrth osod a chyflawni’r agenda strategol ar gyfer yr is-adran. Bydd hyn wedi’i gysylltu, yn y bôn, â gweledigaeth gyffredinol y Cydwasanaethau o ddod yn sefydliad o safon fyd-eang. 

Yn benodol, bydd y rôl hon yn datblygu ac yn gweithredu’r agenda foderneiddio ar gyfer y GGS o ran darparu amgylchedd cadarn a safonol i alluogi staff i lwyddo yn y sefydliad. Bydd hefyd yn brif gyswllt rhwng y GGS a’i gymunedau o gwsmeriaid a rhanddeiliaid allanol.

Bydd yn ymgysylltu’n uniongyrchol ac yn meithrin perthnasoedd proffesiynol cadarn â rhanddeiliaid. Bydd hefyd yn sicrhau bod pob math o gyfathrebu o ansawdd uchel ac yn galluogi dull rhagweithiol o wella gwasanaethau yn barhaus.

Gweithio i'n sefydliad

Mae gennym safonau uchel ac rydym yn disgwyl i bawb ymgorffori ein gwerthoedd Gwrando a Dysgu, Gweithio Gyda'n Gilydd, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi, tra'n sicrhau bod ymddiriedaeth, gonestrwydd a thosturi yn rhan annatod o bopeth a wnawn. Rydym yn hyblyg, yn ystwyth ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sefydliad sy’n dysgu, lle mae’n ddiogel gwneud camgymeriadau, lle caiff bai ei ddisodli gan gyfleoedd i ddysgu a gwella. Mae arloesi yn rhan o bopeth a wnawn. Cydnabyddwn ein pobl yn rheolaidd trwy'r Orsaf Werthfawrogi, i annog staff i ganmol ymddygiad rhagorol ymysg ei gilydd ac fe gynhelir seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Blynyddol sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi ein pobl ac yn ymdrechu i greu diwylliant o dosturi a chynwysoldeb. Rydym yn sefydliad dwyieithog sydd â thîm o Hyrwyddwyr Newid sy’n hyrwyddo ‘Dyma Ein PCGC’ ein prif raglen newid. Yn yr un modd, BALCH yw ein rhwydwaith staff newydd sy’n croesawu cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ i ddod ynghyd mewn man diogel i gael trafodaethau, i gynllunio digwyddiadau ac i gael y cyfle i adeiladu rhwydweithiau cefnogol. Mae gennym becyn buddion cynhwysfawr lle mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’n cefnogi iechyd, ymgysylltiad a lles ac mae’n cynnwys Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae gennym dros 30 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol i sicrhau llesiant a gwydnwch ein pobl.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Addysgwyd i Radd Meistr (neu lefel gyfwerth o brofiad o weithio ar lefel uwch mewn maes arbenigol), a
  • gwybodaeth ac arbenigedd helaeth mewn nifer o feysydd arbenigol, a gafwyd trwy ddiploma ôl-raddedig neu brofiad neu hyfforddiant cyfatebol.
  • Gwybodaeth arbenigol am sawl disgyblaeth a swyddogaethau a gafwyd dros gyfnod sylweddol o amser.
  • Gwybodaeth ymarferol am nifer o grwpiau proffesiynol o randdeiliaid GIG Cymru a phrofiad o gyflawni’r gofynion perfformiad gweithredol, systemau gwybodaeth a datblygu gwasanaethau a fynnir.
Meini prawf dymunol
  • Yn gymwys i Lefel Ymarferydd MSP neu PRINCE2

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad helaeth ar draws yr amrywiaeth o ddisgyblaethau rheoli cyffredinol.
  • Profiad sylweddol o uwch reoli a gwybodaeth ymarferol am nifer o systemau rheoleiddio Gofal Sylfaenol o fewn GIG Cymru.
  • Profiad manwl o systemau rheoli ariannol a rheolaeth gyllidebol gysylltiedig.
  • Profiad trawsnewidiol mewn rôl datblygu sefydliadol.

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu datblygedig iawn gyda’r gallu i gyfathrebu ar faterion cymhleth iawn a sefyllfaoedd anodd.
  • Sgiliau dadansoddol lefel uchel a’r gallu i dynnu data ansoddol a meintiol o ystod eang o ffynonellau ac asesu opsiynau, gan ddod i gasgliadau priodol.
  • Sgiliau rhesymu lefel uchel.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Customer Service ExcellenceHyderus o ran anabledd - ymroddedigDisability confident committedMenopause Workplace PledgeEnei MemberLexcel Legal Practice Quality MarkRhwydwaith Network 75 logoEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Scott Lavender
Teitl y swydd
Deputy Director of Primary Care Services
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07951 928 019
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg