Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Safeguarding
Gradd
Gradd 8b
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Gweithio hyblyg
  • Gweithio gartref neu o bell
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-NMR006-0326
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
i gadarnhau ar benodiad
Tref
Caerdydd/Swansea/Wrecsam
Cyflog
£65,424 - £76,021 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
09/04/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Nyrs / Ymarferydd Arweiniol Diogelu Cenedlaethol (2 swyddi ar gael)

Gradd 8b

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


Nodyn Pwysig ar gyfer swyddi a gaiff eu cynnig ar sail tymor penodol neu secondiad.

Gall unigolion sydd â swydd barhaol (sylfaenol) yn y GIG ond gael eu penodi drwy secondiad. Bydd angen i’ch Rheolwr llinell presennol roi cymeradwyaeth ar gyfer secondiad cyn gellir cyflwyno cais.


Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.

Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086

Trosolwg o'r swydd

ae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â thîm deinamig sy'n tyfu'n gyflym fel Nyrs/ Ymarferydd Diogelu Arweiniol ar lefel Genedlaethol yn y Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol. Mae’r swydd wedi'i lleoli yn y Gyfarwyddiaeth Nyrsio, Ansawdd a Llywodraethu Integredig (NQIG). 

Mae’r Gyfarwyddiaeth NQIG yn dwyn ynghyd dair is-adran allweddol: Nyrsio ac Ansawdd, Llywodraethu Integredig a'r Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol. Ein cenhadaeth gyffredin yw gwella ansawdd a gallu ar draws gwasanaethau iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn drwy alluogi, grymuso ac ymgysylltu â'r rhai rydym yn gweithio gyda nhw ac yn eu gwasanaethu, gan helpu i adeiladu dyfodol iachach i bawb.

Mae'r Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol yn gweithredu o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru fel tîm o arbenigwyr pwnc, sy’n darparu cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth broffesiynol i gryfhau arferion diogelu ar draws GIG Cymru.

Mae'r gwasanaeth yn galluogi dull sy'n wynebu tuag allan, gan gynnig arweinyddiaeth a chefnogaeth i Rwydwaith Diogelu GIG Cymru.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Darparu arweinyddiaeth strategol a phroffesiynol i gyflawni blaenoriaethau diogelu cenedlaethol ar draws GIG Cymru.
  • Arwain gweithgarwch sicrhau a gwella ansawdd diogelu ar lefel genedlaethol, yn cynnwys archwiliadau, adolygiadau ac ymgorffori dysgu ar draws y system.
  • Datblygu a gweithredu fframweithiau, polisïau a safonau diogelu sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth a chanllawiau statudol.
  • Rhoi cyngor arbenigol ar ddiogelu ac arweinyddiaeth glinigol mewn achosion cymhleth, a chefnogi asesu risg ac uwchgyfeirio.
  • Dadansoddi data a gwybodaeth diogelu i lywio gwaith adrodd, sicrwydd a gwelliant cenedlaethol.
  • Cynrychioli'r Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol mewn fforymau cenedlaethol ac amlasiantaethol, gan ddylanwadu ar wneud penderfyniadau.
  • Paratoi a chyflwyno adroddiadau sicrwydd a briffiau ar gyfer uwch arweinwyr a grwpiau llywodraethu.
  • Hyrwyddo diwylliant o ddysgu, ymarfer myfyriol a gwelliant parhaus drwy arweinyddiaeth, goruchwylio a datblygu hyfforddiant.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Iechyd Cyhoeddus Cymru ydym ni – yr asiantaeth iechyd y cyhoedd genedlaethol yng Nghymru. Ein pwrpas yw ‘Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru Iachach’. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Gyda'n partneriaid, rydym yn gweithio i gynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Mae ein timau'n gweithio i atal clefydau, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd y cyhoedd. Ni yw prif ffynhonnell gwybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd y cyhoedd yng Nghymru.  Mewn byd sy'n wynebu heriau iechyd cymhleth, nid yw ein gwaith erioed wedi bod mor bwysig. 

Rydym yn cael ein harwain gan ein Gwerthoedd, 'Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle cynhwysol sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac sy'n cefnogi trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys rolau rhan-amser a rhannu swyddi.

I gael gwybod rhagor am weithio i ni a’r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gweithiwr proffesiynol cymwys gyda chofrestriad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth cyfredol neu gymhwyster proffesiynol arall sydd wedi'i gofrestru gyda chorff rheoleiddio.
  • Gradd mewn pwnc cysylltiedig.
  • Gradd Meistr neu gymhwyster cyfatebol mewn pynciau perthnasol sy'n gysylltiedig ag iechyd neu ofal cymdeithasol.
  • Lefel 4 diogelu plant ac oedolion mewn perygl.
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
  • Gwybodaeth gyfoes am agenda iechyd a diogelu GIG Cymru gan gynnwys polisi cyfredol, canllawiau statudol a sbardunau cenedlaethol allweddol.
  • Gwybodaeth ymarferol fanwl am ddeddfwriaeth, rheoliadau ac arferion gorau cenedlaethol diogelu sy'n ymwneud â phlant ac oedolion mewn perygl.
  • Dealltwriaeth amlwg o egwyddorion gwella ansawdd gan gynnwys defnyddio archwilio a sicrwydd.
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth arbenigol neu uwch am systemau diogelu amlasiantaeth, gan gynnwys prosesau adolygu statudol (e.e. Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl ) a system ddysgu.
  • Eiriolwr Nyrsio Proffesiynol.
  • Cymhwyster addysgu,
  • Hyfforddwyd PREVENT.
  • Cymhwyster ffurfiol ôl-gofrestru.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol amlwg ym maes diogelu plant ac oedolion mewn perygl.
  • Profiad o ddarparu uwch arweinyddiaeth broffesiynol ar gyfer gwasanaethau diogelu, a gweithredu fel dirprwy arweinydd neu arweinydd dirprwyedig ar gyfer portffolios diogelu diffiniedig.
  • Profiad o arwain llywodraethiant diogelu, sicrhau ansawdd a gwelliannau gwasanaeth.
  • Profiad o arweinyddiaeth uwch ym maes iechyd ac amgylchedd aml-broffesiynol/aml-asiantaeth.
  • Cynhyrchu, datblygu a gweithredu polisïau a chanllawiau ymarfer.
  • Ymwybyddiaeth o reoli a lliniaru risg.
  • Yn gallu monitro safonau ymarfer diogel.
  • Profiad o gynnwys cleifion/y cyhoedd yn effeithiol.
  • Profiad o weithredu systemau ansawdd a meincnodi ym maes iechyd.
Meini prawf dymunol
  • Profiad fel aelod o fwrdd diogelu rhanbarthol neu gynrychiolydd is-grŵp.
  • Profiad o ddatblygiadau gwasanaeth o fewn diogelu ac agendâu cysylltiedig.

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • Datblygu a chyflwyno hyfforddiant sy'n addas ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd.
  • Yn gallu arfer barn broffesiynol i wneud penderfyniadau diogelu cymhleth, ac uwchgyfeirio materion risg uchel yn briodol.
  • Arweinyddiaeth uwch, a'r gallu i ddylanwadu ar lefel genedlaethol.
  • Yn gallu arwain ffrydiau gwaith diogelu amlddisgyblaethol a gyrru newid.
  • Yn gallu dangos dealltwriaeth a chymhwysiad o werthoedd ein gweithle, ynghyd â'r ymddygiadau sylfaenol a nodwyd ar gyfer llwyddiant yn y swydd hon.
  • Sgiliau rheoli pobl ac arweinyddiaeth rhagorol i sbarduno newid a gwelliannau ansawdd ar lefel genedlaethol.
  • Profiad o ddarparu goruchwyliaeth Glinigol/Diogelu yn effeithiol.
  • Sgiliau negodi, dylanwadu a gwneud penderfyniadau cryf.
  • Yn gallu rheoli a defnyddio adnoddau yn unol ag egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus.
  • Yn hyfedr wrth ddefnyddio meddalwedd safonol Microsoft, megis Outlook, Teams, Word, Excel a PowerPoint.
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau Cymraeg lefelau 1 i 5 mewn deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.
  • Tystiolaeth o sgiliau rheoli prosiect.

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Wedi ymrwymo i ddiwylliant o welliant a datblygiad parhaus – wedi’i ategu gan gyfathrebu agored a gwaith tîm.
  • Ffocws strategol.
  • Un sy’n cwblhau ac yn gorffen.
  • Yn gallu teithio’n brydlon i ddiwallu anghenion y gwasanaeth ar sail genedlaethol.
  • Cliriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, gan gynnwys gwirio’r Rhestr Wahardd - Plant ac Oedolion.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Louise Mann
Teitl y swydd
Director of Safeguarding
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg