Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddu
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Gweithio hyblyg
  • Gweithio gartref neu o bell
37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Dydd Gwener, 08:30 - 16:30)
Cyfeirnod y swydd
043-AC055-0326
Cyflogwr
GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Tŷ Matrix
Tref
Abertawe
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/03/2026 23:59

Teitl cyflogwr

GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau logo

Ymgynghorydd Recriwtio

Gradd 3

Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-

 Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz

 Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.

Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.

Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086

Trosolwg o'r swydd

Bydd yr Ymgynghorydd Recriwtio yn ymgymryd â’r gwaith o weinyddu’r broses recriwtio o ddydd i ddydd ar gyfer meysydd anfeddygol.

O dan arweiniad y Rheolwr Recriwtio Cynorthwyol a Chydlynwyr y Tîm Recriwtio, bydd yr ymgynghorydd yn sicrhau y caiff yr holl gamau recriwtio ar gyfer penodiadau mewn adrannau penodol eu cymryd yn unol â’r safonau y cytunwyd arnynt a Gweithdrefn Weithredu Safonol Cymru Gyfan.

Bydd yn rhoi cymorth i uwch-aelodau’r Tîm Gwasanaethau Recriwtio wrth sefydlu prosesau a systemau yn y gwasanaethau recriwtio.

Bydd yn cyfrannu at agenda recriwtio genedlaethol ar gyfer Cymru Gyfan yn ôl yr angen.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi yn adran Gwasanaethau Cyflogaeth, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Rydym yn dîm deinamig ac amrywiol, sy’n ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth recriwtio ardderchog i’r Byrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaethau ledled Cymru.
Rydym yn chwilio am unigolion sy’n awyddus i ddysgu ac i ragori o ran perfformiad a gwasanaeth cwsmeriaid.

Rydym yn darparu cymorth gweinyddol recriwtio i reolwyr yn y Byrddau Iechyd ac i ymgeiswyr gan ddefnyddio systemau electronig, ac rydym hefyd yn cynnig cyngor ac arweiniad lle y bo angen. O’r herwydd mae sgiliau cyfrifiadur, sgiliau cyfathrebu a sgiliau bysellfwrdd da yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Fel tîm, rydym yn rhannu ac yn cynnal gwerthoedd y sefydliad ym mhob peth a wnawn.

Os ydych chi’n rhannu ein gwerthoedd ac yn teimlo y byddwch chi’n gallu cyfrannu at ein tîm a’r gwasanaeth a ddarparwn, ni waeth beth fo’ch profiad blaenorol na’ch cefndir addysgol, byddem yn croesawu’ch cais.

Yn unol â Rheoliadau a chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru, gall y rôl fod yn rhannol gartref i ddechrau.   Byddwch yn cael y gefnogaeth a'r offer y bydd eu hangen arnoch i allu gweithio gartref, ond mae cysylltiad â’r we/WiFi yn hanfodol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.

Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl.

Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.

Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb.  I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/

Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd. 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • NVQ Lefel 3 neu brofiad addysgol cyfatebol
  • Dealltwriaeth o’r broses recriwtio
  • Dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd
Meini prawf dymunol
  • ECDL neu gyfwerth
  • Dealltwriaeth o becynnau recriwtio cyfrifiadurol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer
  • Profiad mewn swydd weinyddol
  • Profiad o ddefnyddio cronfeydd data amrywiol
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd swyddfa prysur
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd Adnoddau Dynol/Hyfforddiant/Recriwtio

Sgiliau a phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau TG da a’r gallu i ddefnyddio MS Office
  • Sgiliau rhyngbersonol da
  • Talu sylw i fanylion
  • Chwaraewr tîm
  • Canolbwyntio ar ofalu am gwsmeriaid
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Customer Service ExcellenceHyderus o ran anabledd - ymroddedigDisability confident committedMenopause Workplace PledgeEnei MemberLexcel Legal Practice Quality MarkRhwydwaith Network 75 logoEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau ApprenticeshipsArmed Forces Bronze Award NWSSP

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Daniel Lewis
Teitl y swydd
Recruitment Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
029 2150 0358
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg