Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC058-0226
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £27,898 - £30,615 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/03/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 23/03/2026
Teitl cyflogwr
Gweinyddwr Ward
Gradd 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr â'r cymwysterau a'r profiad priodol i ymuno â'n timau ar ward Dyfi a'r Uned Fonitro Gardiaidd yn ysbyty Bronglais.
Bydd angen i ddeiliad y swydd feddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog, a bydd yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob mater anghlinigol ar ran Rheolwr y Ward. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cysylltu â staff y Bwrdd Iechyd ar bob lefel, a hefyd â chontractwyr/chyflenwyr allanol.
Mae craffter eithriadol mewn perthynas â manylion a sgiliau trefnu rhagorol hefyd yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, a bydd disgwyl i chi amlygu menter wrth gynllunio eich llwyth gwaith eich hun mewn modd sy'n cefnogi gwaith yr Uwch-dîm Nyrsio.
Ein Gwerthoedd Sefydliadol yw sylfaen diwylliant y Bwrdd Iechyd, a dylid eu hamlygu bob dydd ym mhopeth a wnawn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn gynorthwyydd personol i'r Uwch-brif Nyrsys/Prif Nyrsys a'r dirprwyon, gan ddarparu cymorth ysgrifenyddol a gweinyddol, i gynnwys rheoli'r dyddiadur. Rhaid i chi fod yn gallu amlygu sgiliau TG/cyfrifiadurol a chyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol, yn ogystal â sgiliau trefnu, cynllunio a thrafod.
Byddwch yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr holl faterion anghlinigol ar ran yr Uwch-brif Nyrs/Brif Nyrs, ac yn cysylltu â staff y Bwrdd Iechyd ar bob lefel, yn ogystal â chontractwyr/cyflenwyr allanol. Os ydych yn gweithio'n dda mewn tîm ac yn mwynhau sicrhau bod pethau'n rhedeg yn hwylus a gweithio mewn modd rhagweithiol, yna byddwch yn ffynnu yn yr amgylchedd hwn.
Bydd y prif ddyletswyddau yn cynnwys:
Trefnu, archebu, prosesu a chofnodi adolygiadau datblygiad personol staff.
Trefnu, archebu, monitro a theipio adolygiadau salwch.
Rheoli a chyfrifo gwyliau blynyddol, ynghyd ag amserlenni wardiau.
Prosesu rhoddion/cronfeydd elusennol ac archebu trwy Oracle.
Trefnu cyfarfodydd ward, cymryd cofnodion, a chynnal yr hysbysfyrddau a'r sianeli Teams.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
• Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
• Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro · Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
• 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 23/03/2026.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- RSA III neu brofiad cyfwerth amlwg o deipio a sgiliau TG, gan gynnwys y defnydd o Excel, Word, ECDL neu raglenni cyfwerth
- Profiad o amrediad llawn o ddyletswyddau yn sgil gweithio mewn amgylchedd gweinyddol neu swyddfa mewn Bwrdd Iechyd
- Gwybodaeth am Derminoleg Feddygol, Gofal Iechyd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol mewn rol ysgrifenyddol, glercol, weinyddol uwch
- Gwybodaeth ragorol am holl becynnau Microsoft Office ac am gronfeydd data
- Profiad o reoli llwythi gwaith cymhleth ac amrywiol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Fiona Richardson
- Teitl y swydd
- Senior Sister
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01970 635741
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Debbie Lovell
Uwch-brif Nyrs
01970 635746
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





