Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddiaeth
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Oriau llawn amser (bydd oriau rhan-amser yn cael eu hystyried))
Cyfeirnod y swydd
100-AC102-0426
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£28,819 - £31,626 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
04/05/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
12/05/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Gweinyddwr Ward

Gradd 4

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.

Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am ymgeisydd gyda'r cymwysterau a'r profiad priodol, i ymuno â'n tîm ar Ward Ceredig yn Ysbyty Bronglais.

Bydd angen i ddeiliad y swydd feddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog, a bydd yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob mater anghlinigol ar ran Rheolwr y Ward. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cysylltu â staff y Bwrdd Iechyd ar bob lefel, a hefyd â chontractwyr/chyflenwyr allanol.

Mae craffter eithriadol mewn perthynas â manylion a sgiliau trefnu rhagorol hefyd yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, a bydd disgwyl i chi amlygu menter wrth gynllunio eich llwyth gwaith eich hun mewn modd sy'n cefnogi gwaith yr Uwch-dîm Nyrsio. 

Ein Gwerthoedd Sefydliadol yw sylfaen diwylliant y Bwrdd Iechyd, a dylid eu hamlygu bob dydd ym mhopeth a wnawn.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch yn Gynorthwyydd Personol i'r Uwch-brif Nyrsys/Prif Nyrsys a'r dirprwyon, gan ddarparu cymorth gweinyddol effeithiol, gan gynnwys rheoli'r dyddiadur. Mae'r rôl yn gofyn am sgiliau llafar, ysgrifenedig a TG cryf, ochr yn ochr â galluoedd trefnu a chynllunio da.

Byddwch yn rheoli gohebiaeth, e-byst a dyddiaduron, trefnu cyfarfodydd, cymryd a dosbarthu cofnodion, a pharatoi adroddiadau a dogfennaeth gan ddefnyddio menter a phwyll cadarn. Byddwch yn helpu i gynnal ffeiliau polisi wardiau, diweddaru pecynnau gwybodaeth wardiau, a chefnogi'r gwaith o adolygu a blaenoriaethu digwyddiadau Datix.

Byddwch yn cefnogi gweinyddu'r gweithlu, gan gynnwys cadw cofnodion staff, cydlynu gwyliau blynyddol, monitro absenoldeb salwch, cefnogi prosesau dychwelyd i'r gwaith, a chynorthwyo gyda PADR, cynefino, hyfforddiant gorfodol ac absenoldeb astudio mewn cysylltiad â Dysgu a Datblygu.

Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cefnogi staffio wardiau drwy drefnu staff cyflenwi dros dro, cysylltu â Swyddfa'r Banc, dadansoddi rotas, cwblhau dyddiadau cau e-gofrestru i gyflogres, cynhyrchu adroddiadau staffio, a chysylltu â’r adrannau Ystadau a Pheirianneg Electronig a Biomeddygol ynghylch atgyweirio offer.

Mae'r swydd hon yn ddelfrydol ar gyfer gweinyddwr profiadol sy'n gallu rheoli blaenoriaethau cystadleuol mewn amgylchedd clinigol prysur. 

Mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

•    Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd 
•    Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro · Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
•    47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 
•    Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 12.05.2026

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • RSA III neu brofiad cyfwerth amlwg o deipio a sgiliau TG, gan gynnwys y defnydd o Excel, Word, ECDL neu raglenni cyfwerth
  • Profiad o amrediad llawn o ddyletswyddau yn sgil gweithio mewn amgylchedd gweinyddol neu swyddfa mewn Bwrdd Iechyd
  • Gwybodaeth am Derminoleg Feddygol, Gofal Iechyd

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol mewn rol ysgrifenyddol, glercol, weinyddol uwch
  • Gwybodaeth ragorol am holl becynnau Microsoft Office ac am gronfeydd data
  • Profiad o reoli llwythi gwaith cymhleth ac amrywiol

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sue Dolman
Teitl y swydd
Senior Sister
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970 635644
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Clare Morris

Prif Nyrs Iau

[email protected]

01970 635644

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg