Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Arlwyo
Gradd
Band 2
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (Newidiadau amrywiol ar gael)
Cyfeirnod y swydd
100-EA024-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£23,970 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
27/07/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
07/08/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Cynorthwy-ydd arlwyo

Band 2

Trosolwg o'r swydd

Ar hyn o bryd, rydym yn anelu at gyflogi aelod rhan amser  i ymuno â'n tîm arlwyo prysur yn Ysbyty Bronglais, lle bydd yn cynorthwyo i baratoi a gweini prydau bwyd i gleifion a staff bob dydd.

Byddwch hefyd yn cynorthwyo'r tîm yn y tasgau glanhau dyddiol. Efallai y bydd yna hefyd gyfle i weithio yn ystafell fwyta'r staff.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn unigolyn gweithgar, sy'n barod i weithio'n rhan o dîm.

Y patrymau gwaith fydd 07:00-20:00, a bydd y sifftiau hyn yn cynnwys rhywfaint o waith ar benwythnosau a thros wyliau banc. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Darparu Gwasanaethau Arlwyo i holl ddefnyddwyr yr adran.

Dylai'r ymgeisydd allu gweithio'n rhan o dîm a chyfathrebu'n dda â chyd-weithwyr, staff ac ymwelwyr, fel ei gilydd.

Bydd angen i chi weithio yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r ysbyty, a chynnal gwerthoedd yr Bwrdd Iechyd bob amser.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

 

 

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd

 Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro

Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 07/08/2025.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Yn llythrennog a rhifog
  • Iechyd a Diogelwch Sylfaenol, COSHH, Symud a Chodi a Chario (hyfforddiant yn y gwaith)
  • Bwyd Diogelwch lefel 2 neu gyfwerth
Meini prawf dymunol
  • Lefel dda o addysg gyffredinol
  • NVQ 2
  • Cymhwyster y Cynllun Croeso

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio ym maes lletygarwch neu mewn amgylchedd cegin
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio yn amgylchedd cegin fawr
  • Profiad o ddelio a'r cyhoedd

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Carole [email protected]
Teitl y swydd
Catering Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970 635719
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Kathryn Morgan

Prif Gogyddes

01970 635719

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg