Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Arlwyo
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol: 07:00 - 15:00 neu 11:00 - 20:00 yn gweithio 3 shifftiau yr wythnos
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (Mae oriau gwaith rhwng 07:00 yb - 20:00 ypm. Gweithio ar benwythnosau, gweithio ar wyliau banc yn ôl yr angen.)
Cyfeirnod y swydd
100-EA025-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£23,970 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
27/07/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
08/08/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Cogydd

Gradd 2

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Ar hyn o bryd, mae'r Adran Arlwyo yn Ysbyty Bronglais yn bwriadu penodi Cogydd i ymuno â'r tîm mawr o unigolion yn yr adran, a hynny i ddarparu gwasanaeth coginio effeithiol ac effeithlon. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl hanfodol yn y tîm wrth sicrhau bod bwyd yn cael ei baratoi i'r safon uchaf.

Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi, ond bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar City & Guilds 706/1 a 2 neu gymhwyster cyfatebol. 

Y contract sydd ar gael ar hyn o bryd yw un swydd 22.5 awr.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r contract hwn ar gyfer gweithio amryw ddiwrnodau yn ystod yr wythnos, a hynny ar sail rota dreigl chwe wythnos. Bydd yn ofynnol i chi weithio penwythnosau a Gwyliau Banc yn ôl y gofyn, a rhoddir taliad ychwanegol am hynny. 

Bydd y dyletswyddau'n cynnwys:

  • Coginio prydau bwyd cartref a saladau ar gyfer y cleifion, y staff a'r cyhoedd. 
  • Paratoi prydau deietegol arbennig ar gyfer cleifion yn ôl y gofyn. 
  • Cadw'r ardal goginio'n lân ac yn daclus bob amser a llenwi ffurflenni HACCP perthnasol. 

Darperir hyfforddiant llawn yn yr adran.

Mae'r oriau gwaith rhwng 07:00 a 20:00.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael iwnifform staff. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cynhelir y cyfweliadu ar 08/08/2025

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Lefel sylfaenol o addysg gyffredinol
  • City & Guilds 706 (1 a 2) neu gymhwyster cyfatebol
  • NVQ Lefel 3 mewn Paratoi Bwyd
  • Tystysgrif Hylendid Bwyd Sylfaeno
  • Gwybodaeth fanwl am Hylendid Bwyd a gwybodaeth am systemau HACCP
Meini prawf dymunol
  • Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel Canolradd
  • Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel Uwch (neu barodrwydd i'w chyflawni)
  • Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch, COSHH, Symud a Chodi a Chario

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol o ddyletswyddau coginio tebyg
Meini prawf dymunol
  • Profiad mewn sefydliad neu gorff o faint tebyg
  • Profiad o anghenion deietegol arbennig

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Carole Lepetit
Teitl y swydd
Specialist Services Assistant Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970 635719
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg