Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Arlwyo
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol: 07:00 - 15:00 or 11:00 - 20:00 gweithio 3 shifft yr wythnos
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (Mae oriau gwaith rhwng 07:00am - 20:00pm. Gwaith penwythnos, gwaith gwyliau banc yn ôl yr angen.)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-EA070-1225
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £24,833 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/01/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 20/01/2026
Teitl cyflogwr
Cogydd
Gradd 2
Trosolwg o'r swydd
Ar hyn o bryd, mae'r Adran Arlwyo yn Ysbyty Bronglais yn bwriadu penodi Cogydd i ymuno â'r tîm mawr o unigolion yn yr adran, a hynny i ddarparu gwasanaeth coginio effeithiol ac effeithlon.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl hanfodol yn y tîm wrth sicrhau bod bwyd yn cael ei baratoi i'r safon uchaf.
Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi, ond bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar City & Guilds 706/1 a 2 neu gymhwyster cyfatebol.
Y contract sydd ar gael ar hyn o bryd yw un swydd 22.5 awr.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'r contract hwn ar gyfer gweithio amryw ddiwrnodau yn ystod yr wythnos, a hynny ar sail rota dreigl chwe wythnos. Bydd yn ofynnol i chi weithio penwythnosau a Gwyliau Banc yn ôl y gofyn, a rhoddir taliad ychwanegol am hynny.
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys:
- Coginio prydau bwyd cartref a saladau ar gyfer y cleifion, y staff a'r cyhoedd.
- Paratoi prydau deietegol arbennig ar gyfer cleifion yn ôl y gofyn.
- Cadw'r ardal goginio'n lân ac yn daclus bob amser a llenwi ffurflenni HACCP perthnasol.
Darperir hyfforddiant llawn yn yr adran.
Mae'r oriau gwaith rhwng 07:00 a 20:00.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael iwnifform staff.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 20/01/2026.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel sylfaenol o addysg gyffredinol
- City and Guilds 706 1 a 2 neu gyfwerth
- NVQ Lefel 3 mewn Paratoi Bwyd
- Tystysgrif Hylendid Bwyd Sylfaenol
- Gwybodaeth fanwl am Hylendid Bwyd a gwybodaeth am systemau HACCP
Meini prawf dymunol
- Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel Canolradd
- Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel Uwch (neu barodrwydd i'w chyflawni)
- Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch, COSHH, Symud a Chodi a Chario
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol tebyg o ddyletswyddau cogydd
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn sefydliad o faint tebyg
- Profiad o anghenion deietegol arbennig
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Carole LePetit
- Teitl y swydd
- Catering Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01970 635719
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Kathryn Morgan
Prif Gogyddes
01970 635719
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Cymorth neu bob sector





