Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Domestig
Gradd
Band 2
Contract
6 mis (Cyfnod penodol / secondiad tan 30.06.2026 cyflenwi ar gyfer absenoldeb)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (2 x 37.5 awr wedi'u gweithio 5 diwrnod o 7 gan gynnwys penwythnosau a Gwyliau Banc - ystyrir oriau rhan-amser) rhwng 06:00 - 20:00 ar sail rota. 1 x 18 awr - yn y nosweithiau rhwng 16:00 - 20:00 gan gynnwys gwyliau banc)
Cyfeirnod y swydd
100-EA057-1125
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£24,833 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
12/11/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
25/11/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Cynorthwyydd Domestig

Band 2

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 30.6.2026 cyflenwi ar gyfer absenoldeb. 

Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

A ydych yn mwynhau cwrdd â phobl ac yn cael boddhad o wneud gwaith da sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn? Os felly, cysylltwch â ni, oherwydd gallwn gynnig amodau gwaith rhagorol i Cynorthwy-ydd Domestig yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili. 

Rydym yn chwilio am unigolion hunanysgogol a fydd yn gweithio'n rhan o dîm ac ar eu pen eu hunain. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan lawn yn y tîm cymorth; mae prif ddyletswyddau'r swydd yn cynnwys gwaith glanhau cyffredinol ar wardiau/mewn adrannau, ac arlwyo ar wardiau a chynnal lefel uchel o lanhau. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn cynnig proses gynefino lawn, sy'n cael ei dilyn gan raglen hyfforddi helaeth pan fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hyfforddi ym mhob agwedd ar y gwasanaeth, a phan fydd gofyn iddynt ddefnyddio amrywiaeth o gyfarpar glanhau ac ennill y Dyfarniad Diogelwch Bwyd Lefel 2 a ddarperir yn fewnol.

Yr oriau dan gontract sydd ar gael yw dau gontract 37.5 awr rhwng oriau 06:00 a 20:00 ar sail rota i gynnwys penwythnosau a Gwyliau Banc dros 5 diwrnod. 1 contract 18 awr (gyda’r nos) rhwng 16:00 a 20:00 gan gynnwys Gwyliau Banc.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cyfweliadau i'w cynnal ar  25.11.25

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu amlygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a dealltwriaeth
  • Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch sylfaenol, COSHH, Symud a Chodi a Chario, a Hylendid Bwyd, neu barodrwydd i ddysgu trwy hyfforddiant yn y gwaith
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, COSHH, Symud a Chodi a Chario

Profiad

Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddelio â'r cyhoedd

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Yn meddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1) neu barodrwydd i weithio tuag at hynny

Sgiliau a Phriodweddau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu da
  • Y gallu i ddeall a dilyn cyfarwyddiadau arferol
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac ymateb i alwadau newidiol ar fyr rybudd
  • Yn amlygu brwdfrydedd a pharodrwydd i weithio fel Cynorthwyydd Domestig
  • Yn barod i weithio ar eich pen eich hun
  • Yn barod i drin gwaed a hylifau'r corff
  • Yn amlygu blaengaredd
  • Yn gallu gweithio mewn tîm
  • Yn barod i fod yn gyfrifol am allweddi/ddiogelwch/larymau

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Denise Thomas
Teitl y swydd
Soft Facilities Officer
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03004307972
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg