Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Domestig
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol: Mae contractau ar gael yn 2 x 15 awr ac 1 x 30 awr yr wythnos
- Oriau
- Rhan-amser - 37.5 awr yr wythnos (Amryw o oriau a shifftiau (07:00 - 15:00; 10:00 – 18:00; 11:30 - 19:30; 14:00 - 22:0; 22:00 - 06:30) i gynnwys yn ystod yr wythnos, penwythnosau a gwyliau banc ar rota)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-EA085-1026
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £26,300 pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 25/10/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 03/11/2026
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Domestig
Gradd 2
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn mwynhau cwrdd â phobl ac yn cael boddhad o wneud gwaith sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn? Os felly, cysylltwch â ni, oherwydd rydym yn cynnig amodau gwaith rhagorol i Cynorthwyydd Domestig yn Ysbyty'r Tywysog Bronglais.
Rydym yn chwilio am unigolyn hunanysgogol a fydd yn gweithio'n rhan o dîm ac ar ei ben ei hun. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan lawn yn y tîm cymorth.
2 x 15 awr swyddi ar gael - 11:30-19:30 i gynnwys penwythnosau a gwyliau banc
1x 30 awr - Mae amryw o batrymau shifft ar gael gyda’r potensial i weithio gyda’r nos yn ôl trefnrota i gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd prif ddyletswyddau’r rôl yn cynnwys:
Ymgymryd â thasgau glanhau arferol neu frys/heb eu cynllunio mewn ardaloedd cleifion mewnol, cleifion allanol a'r adrannau, dilyn amserlenni glanhau a gweithdrefnau rheoli heintiau; cefnogi gwasanaeth arlwyo ar y wardiau.
Rydym yn cynnig hyfforddiant cynefino llawn, wedi'i ddilyn gan raglen hyfforddi eang, lle bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael hyfforddiant ar bob agwedd ar y gwasanaeth.
Bydd gofyn i chi ddefnyddio amrywiaeth o offer.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi ei staff i goleddu'r angen am ddwyieithrwydd yn llawn, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol lleiaf hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 03/11/2026
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu amlygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a dealltwriaet
- Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch sylfaenol, COSHH, Symud a Chodi a Chario, a Hylendid Bwyd, neu barodrwydd i ddysgu trwy hyfforddiant yn y swydd
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, COSHH, Symud a Chodi a Chario
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu gweithio'n hyblyg yn ôl y gofyn
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Profiad
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddelio â'r cyhoedd
Sgiliau a Phriodweddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu da
- Yn gallu deall a dilyn cyfarwyddiadau arferol
- Yn gallu gweithio dan bwysau ac ymateb i ofynion sy'n newid ar fyr rybudd
- Yn dangos brwdfrydedd a pharodrwydd i weithio fel Gweithiwr Domestig
- Yn barod i weithio ar eich pen eich hun
- Yn barod i drin gwaed a hylifau'r corff
- Yn gallu defnyddio'ch menter eich hun
- Yn gallu gweithio fel rhan o dîm
- Yn barod i fod yn gyfrifol am allweddi/diogelwch/larwm
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Denise Thomas
- Teitl y swydd
- Soft Facilities Management Officer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 0300 4307972
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Cymorth neu bob sector





