Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Podiatreg/Orthoteg
Gradd
Gradd 3
Contract
12 mis (Cyfnod penodol / secondiad tan 31/08/26 Cyfnod Mamolaeth)
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-ACS057-0525
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais/Canolfan Iechyd Integredig Aberteifi
Tref
Aberystwyth/Aberteifi
Cyflog
£24,433 - £26,060 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
26/05/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
03/06/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Swyddog Orthoteg/Cynorthwyydd Podiatreg

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad tan 31/08/26. Oherwydd cyfnod mamolaeth.

Os ydych yn yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am redeg y swyddfa Podiatreg a Chyfarpar Llawfeddygol o ddydd i ddydd, yn ogystal â sicrhau bod tasgau gweinyddol yn cael eu cyflawni, a bod gwasanaeth o safon yn cael ei ddarparu.

Bydd y rôl hefyd yn cynnwys:

Rhoi cymorth i bodiatrydd goruchwyliol wrth ddarparu triniaeth podiatreg gymhleth a chymorth gweinyddol lle bo angen.

Cynorthwyo'r podiatrydd i gyflawni gweithgareddau gofal traed a hybu iechyd.

Cymryd ac ymdrin i ddechrau ag ymholiadau a chŵynion dros y ffôn ac yn ysgrifenedig.

Delio â materion brys mewn modd priodol, gan sicrhau bod gweithdrefnau’r Adran yn cael eu dilyn er mwyn cofnodi/dilyn i fyny yn ôl yr angen.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cefnogi anghenion gweinyddol y Gwasanaeth Podiatreg ac Orthoteg, gan gynnwys defnyddio system gaffael Oracle a gweinyddu anfonebau orthotig.

Darparu gofal traed sylfaenol i gleifion yr Adran Podiatreg dan gyfarwyddyd y Podiatryddion, a chefnogi'r broses o ddarparu pob agwedd ar y gwasanaethau Podiatreg.

Cyfrifoldeb am drefnu ac aildrefnu apwyntiadau ar gyfer yr adran Cyfarpar Llawfeddygol/Orthotig a'r gwasanaeth Podiatreg yn ôl y gofyn.

Trefnu apwyntiadau cleifion gan gynnwys cludiant yr Ysbyty os yn berthnasol.

Sicrhau bod pob clinig yn llawn.

Sicrhau bod pob cais newydd yn cael ei brosesu'n briodol.

Gweithredu'r newidiadau angenrheidiol i'r rhaglen glinigol pan roddir gwybod am salwch/absenoldeb staff clinigol. Rhoi gwybod i gleifion am glinigau sydd wedi'u canslo a sicrhau bod apwyntiadau'r cleifion hyn yn cael eu haildrefnu cyn gynted â phosibl.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).

Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais. 

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cyfweliadau i'w cynnal ar 03/06/2025.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster lefel II neu brofiad amlwg cyfatebol o sgiliau a gwybodaeth weinyddol/swyddfa
  • Bwriad i gyflawni cymhwyster Agored lefel 3 neu'n meddu ar brofiad cyfatebol
  • Yn fodlon ymgymryd a rhaglenni hyfforddi mewnol ar gyfer cynorthwywyr Podiatreg
  • Gwybodaeth weithredol o gymwysiadau Microsoft Office gan gynnwys taenlenni a chronfeydd data.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio gyda chleientiaid yn unigol
  • Profiad sylweddol o weithio mewn swyddfa brysur
  • Sgiliau prosesu geiriau/taenlenni ardderchog
Meini prawf dymunol
  • Profiad mewn lleoliad gofal iechyd
  • Profiad helaeth o ddelio a'r cyhoedd, yn enwedig yr henoed, naill ai dros y ffon neu wyneb yn wyneb

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio ledled ardal y Bwrdd Iechyd mewn modd amserol
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Enfys James
Teitl y swydd
Service Lead Ceredigion
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07974 268129
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg