Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC213-0726
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £28,819 - £31,626 pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 12/08/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 20/08/2026
Teitl cyflogwr
Gweinyddwr ar gyfer y Gwasanaeth Rheoli Pwysau
Gradd 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth gweinyddol cynhwysfawr, o ansawdd uchel i’r Gwasanaeth Rheoli Pwysau. Mae’r Gwasanaeth Rheoli Pwysau yn wasanaeth ledled y Bwrdd Iechyd sy’n cefnogi pobl ar hyd eu hoes i reoli eu pwysau, o blant, i bobl ifanc, i oedolion.
Bydd deiliad y swydd yn arwain y gwaith o gynllunio a chydlynu clinigau ac ymyriadau grŵp, a bydd yn ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau ysgrifenyddol a thasgau gweinyddol eraill, fel sy’n ofynnol gan y gwasanaeth.
Bydd yn dirprwyo tasgau gweinyddol i staff gweinyddol a chlercol eraill yn y tîm ac yn goruchwylio gwaith gweinyddol rheoli pwysau a wneir ganddynt.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd:
Yn aelod hanfodol o’r Gwasanaeth Rheoli Pwysau ledled y Bwrdd Iechyd, gan ddarparu cymorth, cyngor ac arbenigedd gweinyddol i sicrhau bod clinigau a rhaglenni’r Gwasanaeth yn cael eu cyflawni mewn modd effeithlon ac effeithiol; gan gynnwys y defnydd o lwyfannau digidol, rhedeg clinigau amlddisgyblaethol, ac ymyriadau grŵp i gleifion.
Yn ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau ysgrifenyddol i gefnogi arweinwyr y Gwasanaeth a’r broses o ddarparu gwasanaethau; cynnal cofnodion gweithredu o gyfarfodydd allweddol y Gwasanaeth, gan gefnogi’r gwaith o lunio adroddiadau, cydlynu a chynllunio cyfarfodydd cysylltiedig â’r gwasanaeth, llywio dogfennau allweddol y Gwasanaeth, ac ysgwyddo cyfrifoldeb am ohebiaeth a chyfathrebu ysgrifenedig y gwasanaeth yn ôl y gofyn.
Yn llywio’r gwaith o fonitro a gwerthuso’r Gwasanaeth Rheoli Pwysau, gan gynnwys amseroedd aros, galw a chapasiti, a chefnogi trefniadau datblygu’r gwasanaeth a gwella ansawdd.
Yn bwynt cyswllt allweddol ar gyfer defnyddwyr y Gwasanaeth Rheoli Pwysau, cyd-weithwyr ledled y Bwrdd Iechyd, ac asiantaethau eraill; cyfathrebu a chydlynu cysylltiadau rhwng y Gwasanaeth Rheoli Pwysau ac eraill.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr
gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu
cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn
croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 20/08/2026
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- RSA/OCR Lefel 3 neu brofiad amlwg cyfatebol
- Gwybodaeth am Derminoleg Feddygol/Gofal Iechyd
- Gwybodaeth a dealltwriaeth amlwg mewn perthynas â rôl weinyddu mewn gwasanaeth sy’n ymwneud ag iechyd
- Gwybodaeth am weithio’n unol â pholisi a gweithdrefnau, gan gynnwys Llywodraethu Gwybodaeth
Meini prawf dymunol
- NVQ Lefel 3 mewn busnes/gweinyddu neu gymhwyster cyfatebol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ymgymryd ag ystod lawn o ddyletswyddau gweinyddol mewn gwasanaeth cysylltiedig â gofal iechyd
- Profiad helaeth o gysylltu a chyfathrebu â’r cyhoedd, ymarferwyr meddygol a phartneriaid
- Profiad helaeth o: - ddefnyddio pecynnau TG, gan gynnwys Microsoft Office - sefydlu taenlenni a chronfeydd data, systemau archebu clinigau
- Profiad o ddirprwyo tasgau i staff gweinyddu iau
- Profiad o gydlynu a blaenoriaethu gofynion gwrthgyferbyniol yn effeithiol
Meini prawf dymunol
- Profiad o sefydlu prosesau gweinyddol ar gyfer gwasanaethau amlddisgyblaethol
- Y defnydd o systemau TG i gefnogi gwaith gwerthuso
- Profiad o ddatblygu/wella gwasanaethau
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol (os yw’n ofynnol)
- Yn hyblyg ac yn barod i addasu i anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Claire Jones
- Teitl y swydd
- Weight Management Clinical Pathway Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





