Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Awdioleg
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener)
Cyfeirnod y swydd
100-AC193-0726
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£32,557 - £39,631 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
19/07/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
30/07/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Rheolwr Cymorth Cyflenwi Gwasanaethau

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am Reolwr Cymorth brwdfrydig, llawn cymhelliant sy’n frwd iawn dros gyflenwi gweithredol ac wedi’i ysgogi i gefnogi agenda drawsnewidiol eang ym maesAwdioleg. 

A chithau’n Rheolwr Cymorth ar gyfer Awdioleg, byddwch yn arwain pob agwedd ar berfformiad gweithredol ar draws y gwasanaeth, gan sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael ei ddarparu o fewn adnoddau y cytunwyd arnynt, rheoli capasiti a galw a chynllunioamserlenni’r 24 clinigydd. 

Byddwch yn darparu cymorth busnes i'r Uwch Dîm Awdioleg, gan fod yn gyfrifol am wirio a dadansoddi data perfformiad, gan gynnwys y rhestrau aros adroddadwy Cymru gyfan newydd. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Pennaeth Awdioleg, Rheolwr Gwasanaeth y Glust, y Trwyn a’r Gwddf/Awdioleg a Rheolwr y Swyddfa Awdioleg. Bydd disgwyl i chi weithio gyda chydweithwyr y bwrdd iechyd i ddatblygu, gweithredu ac 
adolygu cynlluniau i ddarparu a gwella gwasanaethau. 

Mae hon yn swydd allweddol lle byddwch yn hyrwyddo effeithiolrwydd gweithredol a gofal o safon, gan helpu i lunio a chryfhau gwasanaethau yn ystod cyfnod o drawsnewid sylweddol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd yn gyfrifol am adolygu/rheoli ein system rheoli cleifion electronig (AuditBase) i sicrhau bod atgyfeiriadau yn cael eu rheoli'n briodol. Byddwch yn gyfrifol am waith capasiti a galw parhaus i sicrhau bod taflwybrau ar gyfer rhestrau aros oedolion a phediatrig yn cael eu bodloni.

Byddwch yn gyfrifol am amserlennu clinigol parhaus i sicrhau y gwneir y mwyaf posibl o amser clinigol.

Byddwch yn bwynt cyswllt allweddol ar gyfer unrhyw faterion gweithredol o fewn y Gwasanaeth Awdioleg gan gysylltu'n agos â'r Pennaeth Gwasanaeth, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaeth y Glust, y Trwyn a’r Gwddf/Awdioleg, yr Uwch Dîm Awdioleg a sefydliadau allanol os yw'n berthnasol.

Bydd angen i chi ddatblygu dealltwriaeth o'r Gwasanaeth Awdioleg yn y bwrdd iechyd, ei rôl/prosesau a system Audit Base sy'n storio'r holl ddata.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. 

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu 30.07.2026

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd neu brofiad cyfatebol/DPP
  • Dealltwriaeth drylwyr o ystod o feddalwedd gyfrifiadurol (e.e. Pecynnau Microsoft Office, E-bost a'r Fewnrwyd, Power BI, 365
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth o'r systemau a ddefnyddir yn sefydliadau'r GIG, gan gynnwys gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad amlwg o gefnogi a rheoli prosiectau neu gynlluniau gweithredol ac o drefnu a chydlynu ystod o gynlluniau cymhleth ar yr un pryd
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio yn y GIG

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1 )

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Yn meddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jane Deans
Teitl y swydd
Head of Audiology
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227449
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

I gael gwybod rhagor am y rôl newydd hon, cysylltwch naill ai â:

Jane Deans - Y Pennaeth Awdioleg [email protected]

Demi Bater -  Rheolwr Gwasanaeth y Glust, y Trwyn a’r Gwddf ac Awdioleg - [email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg