Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cogydd
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-EA023-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £23,970 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 13/07/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 24/07/2025
Teitl cyflogwr

Cogydd
Gradd 2
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i unigol ymrwymedig a llawn cymhelliant ymuno â'n tîm o gogyddion mewn Adran Arlwyo brysur.
Rôl Cogydd yw'r swydd, a hynny ar gontract 37.5 awr, a bydd hefyd yn ofynnol gweithio ar benwythnosau ar sail rota.
Byddwch yn cael eich lleoli yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin a bydd gennych y cyfrifoldeb o ddydd i ddydd am ddarparu bwyd o ansawdd uchel mewn amgylchedd ysbyty.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus allu gweithio'n rhan o dîm sy'n cynhyrchu prydau bwyd o safon uchel i gleifion, staff ac ymwelwyr mewn cegin fasnachol brysur. Mae ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth, ynghyd â sgiliau cyfathrebu rhagorol, hefyd yn hanfodol. Byddai profiad o baratoi prydau ar gyfer anghenion deietegol arbennig yn fantais ar gyfer y swydd hon.
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar City & Guilds 706 1 a 2 neu gymhwyster cyfatebol, neu NVQ Lefel 3 mewn Paratoi Bwyd, ynghyd â thystysgrif hylendid bwyd sylfaenol.
Rydym yn cynnig cyflog da gyda chyfraddau uwch ar benwythnosau, ynghyd â phensiwn a phecyn gwyliau deniadol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
• Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
• Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
• Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
• 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 24/07/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel sylfaenol o addysg gyffredinol
- City and Guilds 706 1 a 2 neu gyfwerth
- NVQ Lefel 3 mewn Paratoi Bwyd
- Tystysgrif Hylendid Bwyd Sylfaenol
- Gwybodaeth fanwl am Hylendid Bwyd a gwybodaeth am systemau HACCP
Meini prawf dymunol
- Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel Canolradd
- Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel Uwch (neu barodrwydd i'w chyflawni)
- Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch, COSHH, Symud a Chodi a Chario
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol tebyg o ddyletswyddau cogydd
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn sefydliad o faint tebyg
- Profiad o anghenion deietegol arbennig
Gofynion Iaith
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Richard Daniel
- Teitl y swydd
- Assistant Specialist Services Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227050
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Cymorth neu bob sector