Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Stadau
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dyddiau, shifftiau, ar alwad)
Cyfeirnod y swydd
100-EA009-0226
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/02/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
03/03/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Swyddog Ystadau

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle wedi dod ar gael yn yr Adran Ystadau yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin i ymgymryd â rôl Swyddog Ystadau. Bydd y rôl yn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r swyddogaeth Ystadau yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili ac yn yr eiddo pellennig.

Yn ddelfrydol, dylai'r ymgeisydd feddu ar gymhwyster mewn disgyblaeth fecanyddol, drydanol, neu adeiladu ar gyfer y swydd hon er mwyn cynnal cymysgedd sgiliau'r swyddogion.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gyswllt rhwng staff mewnol a staff allanol yn achos cynlluniau a phrosiectau.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cefnogi'r Uwch-swyddog Ystadau i ddarparu amgylchedd diogel, cyfforddus i gleifion, staff ac ymwelwyr.

Sicrhau bod yr holl wasanaethau hanfodol yn cael eu cynnal i gefnogi adrannau clinigol yn eu prif dasg o drin cleifion, gan hefyd sicrhau y cydymffurfir â phob deddfwriaeth statudol.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 03/03/2026

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Wedi bwrw eich prentisiaeth
  • HNC/HND mewn disgyblaeth peirianneg
  • Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
  • Gwybodaeth ymarferol dda am amrywiaeth eang o wasanaethau peirianneg
  • Yn gyfarwydd a Memoranda Technegol Iechyd a Deddfwriaethau Statudol
  • Crefftwr/peiriannydd cymwysedig
Meini prawf dymunol
  • Gradd mewn Peirianneg
  • Gwybodaeth arbenigol ar lefel olraddedig
  • Yn meddu ar gymhwyster proffesiynol gyda'r IHEEM neu gorff priodol arall
  • Dealltwriaeth eang o amrywiaeth o wasanaethau peirianneg, ynghyd a'r gallu i symud eich gwybodaeth eich hun yn ei blaen

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o beirianneg
Meini prawf dymunol
  • Yn gyfarwydd ag amgylchedd ysbyty aciwt
  • Profiad priodol o foltedd uchel, nwyon meddygol, ac ati

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Paul Hill
Teitl y swydd
Estates Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227942
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y rôl hon at Paul Hill, Rheolwr Ystadau Dros Dro, Ysbyty Cyffredinol Glangwili ar 01267 227942.

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg