Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Eiddilwch
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS083-0426
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £26,300 - £27,890 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/04/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 24/04/2026
Teitl cyflogwr
Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd – Gweithiwr Cymorth Eiddilwch
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.
Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086
Trosolwg o'r swydd
Mae'r swydd yn gyfle gwych i feithrin eich sgiliau a'ch profiad o ran gofalu am oedolion hŷn ag anghenion eiddilwch. Ffocws y rôl yw gwella profiad y claf trwy hybu annibyniaeth a chefnogi cleifion i gynnal eu gallu gweithredol a gwneud y mwyaf ohono.
Bydd disgwyl i chi annog a chynorthwyo cleifion gyda symudedd, maeth a hydradu, yn ogystal â'u cefnogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol dyddiol sy'n cyfrannu at eu llesiant cyffredinol.
Dylai deiliad y swydd feddu ar NVQ Lefel 3 mewn Iechyd (neu gymhwyster cyfatebol).
Rhaid iddo amlygu sgiliau cyfathrebu effeithiol, meddu ar y gallu i weithio’n dda mewn tîm, a hefyd gallu gweithio'n annibynnol yn ôl y gofyn. Byddwch yn gweithio'n agos ochr yn ochr â'r tîm nyrsio a'r tîm therapïau i ddarparu gofal o safon, sy'n canolbwyntio ar y claf.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; fodd bynnag, mae croeso i siaradwyr Cymraeg a Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cefnogi'r gwaith o ddarparu gofal o safon i oedolion hŷn ag anghenion eiddilwch, gan ganolbwyntio ar wella profiad cyffredinol y claf.
Hybu a chynnal annibyniaeth cleifion, gan annog cyfranogiad mewn symudedd, maeth, hydradu, a gweithgareddau rhyngweithiol dyddiol.
Cynorthwyo cleifion gyda gofal personol, gan gynnwys ymolchi, gwisgo, mynd i’r toiled, a chynnal urddas bob amser.
Cefnogi symudiad diogel gan ddefnyddio offer priodol a dilyn canllawiau symud a thrin.
Monitro newidiadau yng nghyflwr cleifion a rhoi gwybod amdanynt yn syth i'r nyrs gofrestredig neu'r staff therapi.
Cyflawni tasgau clinigol dirprwyedig, megis arsylwadau, monitro hylif/bwyd, a chofnodi yn ôl y gofyn.
Cydweithio â'r tîm nyrsio, y tîm therapïau, a’r tîm amlddisgyblaethol ehangach i gyflawni nodau cleifion unigol.
Cynhelir y cyfweliadau ar 24/4/2026
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Rhifedd a llythrennedd hyd at o leiaf lefel TGAU neu gymhwyster cyfatebol
- NVQ/Diploma lefel 3 mewn Iechyd a/neu gymhwyster perthnasol
- Cofnod o ddatblygiad proffesiynol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad clinigol diweddar o weithio mewn amgylchedd gofal iechyd neu ofal cymdeithasol perthnasol
- Profiad o weithio mewn tîm
- Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant pellach
Meini prawf dymunol
- Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodion gofal
- Yn cydnabod egwyddorion adsefydlu a galluogi'r claf i fod mor annibynnol â phosibl
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sara Parsell-Evans
- Teitl y swydd
- Senior Ward Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267227179
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector





