Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Hematoleg
Gradd
Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd Locwm
Contract
Cyfnod Penodol: 24 mis (tymor penodol)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (10 sesiwn)
Cyfeirnod y swydd
100-MED-GGH-461-L
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£125,509 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
08/11/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Hematolegydd Ymgynghorol Locwm

Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd Locwm

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Cyfunwch rôl ymgynghorol werth chweil â’r cyfle i fyw a gweithio yn un o’r rhannau harddaf o Gymru. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am Hematolegydd Ymgynghorol Locwm i ymuno â’n tîm Haematoleg cefnogol a blaengar, a hynny’n bennaf yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin gan gyfrannu at wasanaethau ledled y Bwrdd Iechyd.

Rydym yn chwilio am glinigydd ymroddedig a all gynnig arbenigedd ychwanegol i’n tîm sefydledig a helpu i ddatblygu gwasanaethau is-arbenigedd ymhellach ledled y rhanbarth. Mae’r rôl hon yn gyfle i gael effaith ystyrlon ar ofal cleifion wrth weithio o fewn gwasanaeth cydweithredol sy’n gwerthfawrogi arloesedd, datblygiad gwasanaethau a thwf proffesiynol. 

Mae ein tîm o saith meddyg ymgynghorol yn darparu gwasanaeth Hematoleg cynhwysfawr ar draws pedwar safle ysbyty yng Ngorllewin Cymru, gan ofalu am boblogaeth amrywiol o gleifion ar draws hematoleg falaen ac anfalaen. A chithau’n gweithio yn ein hysbyty acíwt mwyaf, cewch gefnogaeth gan dîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys cyd-weithwyr Ymgynghorol, Meddygon Arbenigol, Cymrodyr Clinigol, Nyrsys Arbenigol Clinigol Hematoleg a Fferyllwyr Hematoleg Arbenigol. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Ymarfer Clinigol 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu gofal o safon ar draws holl sbectrwm Hematoleg a bydd yn cael cyfle i ddatblygu a gwella diddordeb is-arbenigol ar draws y Bwrdd Iechyd. Gan weithio’n agos gyda chyd-weithwyr ymgynghorol, byddwch yn cyfrannu at ddatblygiad parhaus gwasanaethau is-arbenigedd ac yn cefnogi’r gwaith o ddarparu gofal modern, sy’n canolbwyntio ar y claf. 

Gofalu am Gleifion Mewnol 

Byddwch yn darparu mewnbwn Hematoleg arbenigol i gleifion mewnol ar draws y safle, gan weithio’n agos gyda thimau acíwt ac arbenigol i gefnogi’r gwaith o reoli cyflyrau hematolegol cymhleth. Mae’r rôl yn cyfrannu at addysg a datblygiad cyd-weithwyr meddygol ac yn cynnal cysylltiadau agos â’r Gwasanaeth Oncoleg Acíwt, sy’n cefnogi cleifion mewnol hematoleg ar draws y Bwrdd Iechyd.

Gwasanaethau Cleifion Allanol 

Mae’r swydd yn cymryd rhan mewn 3-4 clinig cleifion allanol yr wythnos, gyda hyblygrwydd i ymgorffori gweithgarwch is-arbenigol ychwanegol yn ddibynnol ar brofiad a gofynion y gwasanaeth. Am fod mwyfwy o gleifion yn dychwelyd o ganolfannau trydyddol i gael triniaeth barhaus ac ôl-ofal yn nes at y cartref, mae’r gwasanaeth Hematoleg lleol yn chwarae rhan hanfodol yn eu gofal parhaus. Caiff ymgyngoriadau dros y ffôn a rhithwir eu hannog yn frwd i wella hygyrchedd i gleifion ar draws ein cymunedau gwledig.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford 
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
  • 48 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre 
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Nid yw’r dyletswyddau a amlinellir isod yn ddiffiniol a gellir eu newid yn unol ag anghenion y gwasanaeth.

  • Bydd y sawl a benodir yn cyfrannu at bob agwedd ar y gwaith hematoleg a hemo-oncoleg cyffredinol, gan gynnwys cymryd rhan mewn cyfarfodydd adrannol a rota ar alwad.
  • Efallai y bydd yn ofynnol cynnal clinigau ar safleoedd ysbytai eraill (mae clinigau rhithwir yn opsiwn).
  • Rhaid i’r sawl a benodir fod yn rhywun a all helpu i ddatblygu ein gwasanaeth gwledig i sicrhau gofal cleifion rhagor 

Gwasanaethau Labordy a Diagnostig 

Byddwch yn cyfrannu at agweddau labordy y gwasanaeth, gan ddarparu cyngor clinigol ar ddehongli ffilmiau gwaed a chynorthwyo adroddiadau mêr esgyrn ochr yn ochr â chyd-weithwyr yn y tîm Hematoleg ehangach.

Gweithio Amlddisgyblaethol 

Bydd deiliad y swydd yn cymryd rhan mewn tîm amlddisgyblaethol Hematoleg wythnosol ar draws y Bwrdd Iechyd ac yn cael cyfleoedd i ymgysylltu ag ystod o dimau amlddisgyblaethol Cymru Gyfan, gan gynnwys gwasanaethau Lymffoma, Myeloma a Myeloid, gan hyrwyddo penderfyniadau cydweithredol a chyrchu arbenigedd ledled Cymru.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn gwasanaethu cymunedau ar draws ardal sy’n enwog am ei harfordir, cefn gwlad ac ansawdd bywyd, gan gynnig cydbwysedd ardderchog rhwng gyrfa foddhaus a bywyd y tu allan i’r gwaith. Yng Ngorllewin Cymru mae cydbwysedd ardderchog ar gael rhwng boddhad proffesiynol ac ansawdd bywyd. Yn Sir Gaerfyrddin cyfunir cefn gwlad hardd, cymuned leol fywiog a rhannau o arfordir mwyaf ysblennydd Cymru o fewn cyrraedd hawdd. Mae’r rôl hefyd yn rhoi  cyfleoedd i ddatblygu diddordebau is-arbenigol, cyfrannu at addysgu a hyfforddiant, a chymryd rhan mewn datblygu gwasanaethau a chydweithio dros Gymru gyfan, gan gefnogi datblygiad gyrfa parhaus o fewn tîm ymgynghorol cefnogol.

I gael holl fanylion gofynion y rôl, gweler y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person sydd ynghlwm.

Cynhelir trafodaethau ynghylch patrwm gweithio yn ystod y broses cynllunio swyddi gychwynnol, lle gellir trafod ac archwilio dewisiadau, gofynion ac opsiynau yn llawn.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf, gan sicrhau bod ein cymuned yn cael y gofal gorau posibl. Rydym yn gwerthfawrogi cynhwysiant ac yn meithrin diwylliant yn y gweithle sy'n croesawu amrywiaeth ac yn cefnogi cyfraniad pob unigolyn tuag at amgylchedd gofal iechyd croesawgar.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymdeithas ac rydym yn ymrwymedig i greu gweithle amrywiol a chynhwysol.

Gweler y dolenni isod am fideos defnyddiol sy'n ymwneud â'r swydd hon:

Hywel Dda 3 Sir - https://youtu.be/9wTeZD4cQOw

Ffordd o fyw yng Nghymru –https://youtu.be/rICFhN-0_nY?si=9pFkL_BkfEiQLzAo

Rhaglen Ddatblygu Arweinyddiaeth Feddygol Hywel Dda  –https://youtu.be/2fDHk9imTbo?si=OjYD8W41c-YNNVVA

Taith rhithwir - https://youtu.be/Qsepgory-OI

Ysbyty Glangwili - https://youtu.be/gyySXnmh-E8

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad llawn a Thrwydded i Ymarfer gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
  • Sgiliau Cynnal Bywyd Uwch Ardystiedig a Dilys.
  • Cwblhau Arholiadau perthnasol y Coleg Brenhinol (neu gyfwerth).
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster(au) clinigol ychwanegol.

Profiad Clinigol

Meini prawf hanfodol
  • Profiad eang o fewn y maes arbenigedd.
  • Gallu dangos cymwyseddau craidd a sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd.
  • Tystiolaeth o arwain tîm.
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o weithio yn y DU neu'r GIG.

Addysgu

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i asesu'n feirniadol gofynion dysgu ar gyfer eich hun ac eraill.
  • Tystiolaeth o drefnu rhaglenni ac addysgu myfyrwyr meddygol a meddygon preswyl.
  • Parodrwydd i addysgu pob gradd o staff amlddisgyblaethol proffesiynol.
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster addysgu.

Ymchwil ac Ysgolheictod

Meini prawf hanfodol
  • Arddangos gwybodaeth am ymchwil gyfredol ac arfer gorau yn y maes arbenigedd.
  • Tystiolaeth o gadw'n gyfredol â'r ymchwil a'r arfer gorau.
  • Tystiolaeth o leoli a defnyddio canllawiau clinigol yn briodol.
  • Tystiolaeth o gyfathrebu a dehongli tystiolaeth ymchwil mewn ffordd ystyrlon.
Meini prawf dymunol
  • Cyfranogiad gweithredol mewn ymchwil.

Llywodraethu

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth o rôl Llywodraethu Clinigol.
  • Dealltwriaeth o archwilio clinigol (neu brosiect gwella ansawdd).
  • Gwybodaeth am y broses flynyddol o adolygu cynllunio/arfarnu swyddi
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am reoli risg.
  • Cyfranogiad mewn archwilio clinigol.

Diogelu

Meini prawf hanfodol
  • Dangos gwybodaeth am ofynion diogelu a chymryd cyfrifoldeb priodol.
  • Tystiolaeth o gymhwyso deddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth briodol.

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Gallu gweithio'n annibynnol a bod yn gyfrifol am gamau a gymerwyd.
  • Gallu bod yn bwyllog wrth weithio o dan bwysau.
  • Ymgymryd â chyfrifoldeb am arwain a goruchwylio tîm.
  • Sgiliau gweithio mewn tîm a sgiliau rhyngbersonol rhagorol

Arall

Meini prawf dymunol
  • Siarad Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dylan Jones
Teitl y swydd
Head of Pathology Service
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01554 783068
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg