Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cleifion Allanol
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-NMR034-0226
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£31,516 - £38,364 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
18/02/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
05/03/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Gofrestredig

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifolam asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan gydweithredu ag eraill er mwyn diwallu anghenion y cleifion a'u teuluoedd.

Bydd yn cynorthwyo i reoli a threfnu ei faes clinigol, gan gymryd rhan yn y gwaith o addysgu, datblygu a goruchwylio aelodau eraill o staff. Gweithio ochr yn ochr ag aelodau'r tîm nyrsio, gan roi cymorth i gyd-weithwyr iau wrth iddynt ddarparu gofal uniongyrchol. Amlygu gwerthoedd y Bwrdd Iechyd ym mhopeth y byddwch yn ei wneud yn yr amgylchedd gwaith. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae Cleifion Allanol yn amgylchedd amrywiol, amlddisgyblaethol sy'n gofyn am sgiliau hyblyg y gellir eu haddasu, y gallu i ddysgu, a'r cymhelliant i ddatblygu eich sgiliau eich hun. Rydym yn ymdrin ag ystod eang o arbenigeddau, gan gynnwys clinigau Fasgwlaidd, Offthalmoleg, Orthopaedeg, Dermatoleg a Chlust, Trwyn a Gwddf. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwdfrydig, yn drefnus, ac yn ymroddedig i ddarparu gofal nyrsio o safon uchel, ac yn gallu gweithio’n annibynnol yn ogystal ag yn rhan o dîm. Byddwch yn sicrhau'n gyson bod preifatrwydd, urddas a lles seicolegol claf yn cael eu cynnal bob amser a bod y gofal a roddir yn canolbwyntio ar y claf. Mae angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol. Mae arnom angen unigolion sy'n flaengar, yn drefnus, ac sy'n meddu ar agwedd gadarnhaol tuag at hyblygrwydd a newid.

Rydym yn adran ragweithiol ac yn cefnogi myfyrwyr meddygol, myfyrwyr nyrsio, prentisiaid, lleoliadau gwaith a datblygiad gweithiwr cymorth gofal iechyd. O fod yn nyrs gymwys yn yr adran, byddwch hefyd yn gweithredu fel Asesydd Ymarfer a/neu Oruchwyliwr Ymarfer. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd addysg o ran cynnal gweithlu cynaliadwy, ac yn disgwyl i’n staff arwain trwy esiampl i ysbrydoli cenhedlaeth gweithlu’r dyfodol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 05/03/2026

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Meini prawf dymunol
  • Gradd mewn Nyrsio
  • Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru, e.e. Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA)
  • Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru, e.e. Amddiffyn Plant
  • Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru, e.e. Triniaeth Cynnal Bywyd Ganolradd os yw'n ofynnol mewn lleoliad clinigol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth cyn-gofrestru o ofal nyrsio uniongyrchol
  • Profiad o ddarparu gofal nyrsio holistaidd
  • Diddordeb mewn meithrin sgiliau nyrsio
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth glir o'r fframwaith llywodraethu clinigol
  • Rhoi arfer seiliedig ar dystiolaeth ar waith

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Fay Lloyd
Teitl y swydd
Sister - Outpatients
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227835
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Fay Lloyd

Prif Nyrs

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg