Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Pediatreg
- Gradd
- Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Meddyg Arbenigol
- Contract
- Cyfnod Penodol: 24 mis (Tymor Penodol)
- Oriau
- Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-MED-GGH-420-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £64,292 - £102,689 y flwyddyn
- Yn cau
- 07/07/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Meddyg Arbenigol ym maes Pediatreg
Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Meddyg Arbenigol
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Feddyg Arbenigol ymroddedig ym maes Pediatreg i ymuno â'r tîm yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili. Mae'r swydd barhaol hon yn cynnig y cyfle i weithio ar lefel gradd ganol o fewn gwasanaeth pediatrig cefnogol a sefydledig.
Byddwch yn ymuno â rota ochr yn ochr â hyfforddeion pediatrig a Meddygon Arbenigol profiadol, gan gyfrannu at amgylchedd tîm cydweithredol a chyfeillgar. Mae'r rôl yn cynnwys cyfleoedd i arwain gofal ar y ward, ennill profiad clinigol eang, a datblygu diddordeb arbennig trwy amser clinig pwrpasol, absenoldeb astudio, a goruchwyliaeth.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnig cyfle i adeiladu eich gyrfa gan fwynhau ansawdd bywyd rhagorol yng Ngorllewin Cymru. A’r swydd yng Nghaerfyrddin, byddwch yn elwa ar gymuned groesawgar, arfordir a chefn gwlad hardd gerllaw, a chostau byw mwy fforddiadwy.
Byddwch yn gweithio o fewn sefydliad cefnogol sy'n gwerthfawrogi cydweithio, llesiant staff, a datblygiad proffesiynol. Mae cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant, addysgu a dilyniant gyrfa yn cael eu hannog yn frwd, er mwyn i chi ddatblygu eich sgiliau mewn lleoliad clinigol amrywiol a gwerth chweil.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn elwa ar amodau gwaith cefnogol wrth ddatblygu eich gyrfa o fewn gwasanaeth pediatrig wedi'i strwythuro'n dda.
Mae'r Gyfarwyddiaeth Iechyd Menywod a Phlant yn darparu gofal i blant, pobl ifanc a menywod ledled Hywel Dda. Caiff y gwasanaeth pediatrig ei gefnogi gan uwch dîm nyrsio profiadol ac mae'n canolbwyntio ar ddarparu gofal integredig o safon.
Caiff gwasanaethau eu cynllunio i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol, gyda phediatreg acíwt ar draws safleoedd ysbytai cyffredinol dosbarth ac Uned Babanod Gofal Arbennig (SCBU) ganolog, sy'n rheoli tua 250 o dderbyniadau’r flwyddyn. Mae gofal dwys newyddenedigol yn cael ei gefnogi trwy wasanaeth trafnidiaeth rhanbarthol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
-
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford
-
Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
-
Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
-
47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre
-
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad GMC llawn a thrwydded i ymarfer.
- Sgiliau Cynnal Bywyd Uwch Ardystiedig a Dilys
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster(au) clinigol ychwanegol.
- Tystiolaeth o weithio tuag at aelodaeth o'r Coleg Brenhinol.
Llywodraethu Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Cymryd rhan mewn archwiliad clinigol (neu brosiect gwella ansawdd) a deall rôl archwilio wrth wella ymarfer meddygol
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am reoli risg.
- Gwybodaeth am y broses flynyddol o adolygu cynllunio/arfarnu swyddi
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Rhaid bod wedi cwblhau o leiaf bedair blynedd o hyfforddiant ôl-raddedig llawn-amser (neu'r hyn sy'n cyfateb i'w ennill ar sail rhan-amser neu hyblyg), a bydd o leiaf dwy ohonynt mewn rhaglen hyfforddi arbenigedd mewn arbenigedd perthnasol neu fel hyfforddai arbenigedd cyfnod penodol mewn arbenigedd perthnasol; neu brofiad a chymwyseddau cyfatebol.
- Yn gallu dangos cymwyseddau craidd a sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd.
- Profiad yn y GIG.
Meini prawf dymunol
- Gallu dangos tystiolaeth o arwain tîm.
Addysgu
Meini prawf hanfodol
- Parodrwydd i addysgu pob gradd o staff amlddisgyblaethol proffesiynol.
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o drefnu rhaglenni ac addysgu myfyrwyr meddygol a meddygon preswyl.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
- Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Nick Williams-Davies
- Teitl y swydd
- Service Delivery Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07425631656
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Meddygol a Deintyddol neu bob sector





