Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferyllfa
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Dydd Llun i ddydd Gwener 08:45 i 17:00; gweithio ar benwythnosau, yn hwyr ac ar wyliau banc yn ôl trefn rota, gydag ymrwymiad i fod ar alwad
Cyfeirnod y swydd
100-PST045-1125
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£48,527 - £55,532 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
04/12/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
11/12/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Fferyllydd Clinigol Arbenigol

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Dyma gyfle cyffrous i Fferyllydd profiadol, llawn cymhelliant ymuno â’n tîm Fferylliaeth dynamig yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili i weithio shifftiau ar batrwm cylch.

Byddwch yn gweithio ar draws amrywiaeth o wardiau llawfeddygol a meddygol cyffredinol, yn yr Adran Achosion Brys a’r wardiau Menywod a Phlant, gan ddarparu gwasanaeth fferylliaeth glinigol rhagweithiol, sy’n canolbwyntio ar y claf. Byddwch yn aelod allweddol o’r tîm amlddisgyblaethol, gan gyfrannu at ddefnydd diogel, effeithiol o feddyginiaethau, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i wella canlyniadau cleifion.

Byddwch yn darparu gwasanaeth fferylliaeth glinigol o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y claf, trwy gynnal trefniadau cysoni meddyginiaethau cynhwysfawr, darparu cyngor arbenigol ar y defnydd diogel, effeithiol a phriodol o feddyginiaethau, asesu presgripsiynau o ran eu priodoldeb clinigol, cefnogi presgripsiynwyr i wneud penderfyniadau cymhleth, a chyflenwi meddyginiaeth mewn modd amserol. 

Byddwch yn cefnogi'r Fferyllydd Arweiniol trwy gyfrannu at y gwaith o ddatblygu a gweithredu canllawiau a phrotocolau, a chymryd rhan mewn archwiliadau clinigol, adolygiadau o ddigwyddiadau a phrosiectau gwella ansawdd i wella gofal cleifion

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn rhan o dîm fferylliaeth dynamig a blaengar, byddwch yn gwneud y canlynol: 

  • Darparu cymorth fferyllol clinigol arbenigol i'r Uned Penderfyniadau Clinigol a'r Adran Frys
  • Cwnsela cleifion i sicrhau eu bod yn deall y driniaeth gystal â phosibl ac yn cadw ati gymaint â phosibl.
  • Gweithio'n agos gyda thimau amlddisgyblaethol i sicrhau defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau
  • Cymryd rhan weithredol yn rowndiau bwrdd a ward i hybu arferion presgripsiynu diogel a hwyluso'r broses o ryddhau cleifion
  • Cefnogi stiwardiaeth gwrthficrobaidd a mentrau optimeiddio meddyginiaethau
  • Cyfrannu at brosiectau i ddatblygu'r gwasanaeth a gwella ansawdd
  • Darparu addysg a hyfforddiant trwy oruchwylio a mentora fferyllwyr iau, technegwyr fferyllol, myfyrwyr fferylliaeth, yn ogystal â staff wardiau clinigol

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 11/12/2025.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd meistr mewn fferylliaeth (4 blynedd) neu brofiad neu gymwysterau cyfatebol
  • Yn gofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
  • Gwybodaeth broffesiynol am brosesau rheoli meddyginiaethau mewn GIG integredig
  • Profiad o addysgu a goruchwylio fferyllwyr, technegwyr, cynorthwywyr a myfyrwyr
  • Diploma mewn Fferylliaeth Glinigol neu brofiad neu gymwysterau cyfatebol
  • Gwybodaeth am faes arbenigol fel y disgrifir yn yr hysbyseb swydd
Meini prawf dymunol
  • Tiwtor cyn-gofrestru achrededig
  • Tiwtor Fferylliaeth Diploma Achrededig
  • Presgripsiynydd Annibynnol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth a phrofiad hynod ddatblygedig ym maes gofal iechyd
  • Y gallu i amlygu cyflawniad mewn o leiaf un maes rheoli meddyginiaethau arbenigol
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i amlygu cyflawniad mewn mwy nag un maes rheoli meddyginiaethau

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Yr hyblygrwydd i ymgymryd â dyletswydd frys, gan gynnwys penwythnosau, Gwyliau Banc ac agor gyda'r nos
  • Yn meddu ar ymagwedd hyblyg
  • Teithio rhwng safleoedd a'r tu allan i'r sefydliad
  • Yn deall ac yn amlygu ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Carys Dyer
Teitl y swydd
Lead Pharmacist for Clinical Services
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227469
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg