Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapi
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS098-0426
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Hafan Derwen
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £28,819 - £31,626 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 27/04/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 06/05/2026
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Cynorthwyol Ffisiotherapi
Gradd 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.
Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086
Trosolwg o'r swydd
Mae gan BIP Hywel Dda gyfle cyffrous i ymuno â’n Gwasanaethau Therapïau Canser sy’n datblygu, sy’n cefnogi cleifion i baratoi ar gyfer adsefydlu yn dilyn triniaeth canser, ac yn eu cefnogi yn ystod adsefydlu. Rydym yn chwilio am Ymarferydd Cynorthwyol Ffisiotherapi profiadol i gefnogi’r broses o ddarparu gwasanaeth therapïau canser rhithwir arloesol.
Mae rhaglen “Rhagsefydlu hyd at Adsefydlu” BIP Hywel Dda yn cefnogi pobl gydol eu triniaethau canser, a hynny trwy hybu canlyniadau clinigol, gweithredol a llesiant cleifion, yn ogystal â gwella eu profiad.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gan weithio’n rhan o dîm amlddisgyblaethol, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio’n rhan annatod o’r Gwasanaeth Therapïau Canser gan ddarparu gofal o safon, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl yn rhithwir ledled Hywel Dda.
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad amlwg o weithio gyda phobl â chanser. Dylent fod â diddordeb mewn gweithio i wasanaeth therapi amlddisgyblaethol sy'n weithredol o ran cefnogi datblygiad proffesiynol, ac yn ymrwymedig i ofal rhagorol i gleifion a'r gwaith o wella'r gwasanaeth.
Rydym yn bwriadu penodi unigolyn rhagweithiol, tosturiol a llawn cymhelliant, y mae ei werthoedd yn cyd-fynd â rhai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
• Rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn
• Cydweithio hyd eithaf ein gallu i roi o'n gorau
• Ymdrechu i ddarparu a datblygu gwasanaethau rhagorol
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd deithio ledled ardal y Bwrdd Iechyd ar adegau. Bydd lwfans milltiredd yn cael ei dalu, a bydd cynllun ceir prydles ar gael.
Edrychwn ymlaen at groesawu ymholiadau anffurfiol, yn ogystal â'ch cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
-
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
-
Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
-
Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
-
47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
-
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Cynhelir y cyfweliadau ar 06/05/2026
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Meistrolaeth dda ar y Saesneg, a Mathemateg sylfaenol
- NVQ lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol
- Cyrsiau ychwanegol perthnasol i gefnogi gwaith clinigol
- Yn meddu ar wybodaeth a phrofiad sylweddol o'r model ffisiotherapi, ac yn gallu cefnog ymyriadau therapiwtig â goruchwyliaeth hyd braich, h.y. gweithio unigol
- Amrywiaeth eang o brofiadau yn rôl gweithiwr cymorth mewn gwasanaeth therapi neu faes cysylltiedig
- Sgiliau TG Sylfaenol
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth TG am systemau casglu data
- Cymhwyster proffesiynol, technegol neu academaidd sy'n berthnasol i ymarfer clinigol hyd at 180 credyd ar lefel 4
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn amlygu sgiliau codi a chario a thrin datblygedig i helpu i adfer gallu cleifion i weithredu
- Yn amlygu craffter golwg a sgiliau canfod datblygedig
- Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth mewn amrywiaeth o leoliadau, gan ysgwyddo cyfrifoldeb am lwyth gwaith dirprwyedig
- Gwybodaeth ymarferol am gyfarpar therapiwtig arbenigol sy'n briodol i'r arbenigedd clinigol
Meini prawf dymunol
- Goruchwylio staff
- Profiad clinigol ychwanegol neu brofiad ychwanegol ym maes gofal iechyd
- Profiad o weithio gyda grwpiau o gleifion
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jo Norris
- Teitl y swydd
- Clinical Lead Physiotherapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Suzanne Crompton, Arweinydd Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Gwasanaethau Arbenigol Dros Dro
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector





