Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Recriwtio
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- 9 mis (Cyfnod penodol / secondiad tan 31.12.2026 i gwmpasu absenoldeb mamolaeth)
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC341-1225
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Tŷ Glien
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £27,898 - £30,615 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 21/12/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 06/01/2026
Teitl cyflogwr
Swyddog Recriwtio Meddygol
Gradd 4
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 31.12.26. Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am rywun i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth yn ein Hadran Recriwtio ar gyfer yr adrannau canlynol:
Meddyg Ymgynghorol ac ymarferydd Cyffredinol, y tîm Recriwtio Meddygol wedi'i leoli yng Nghaerfyrddin.
Bydd yn ofynnol i chi weithio'n hyblyg yn y Tîm Recriwtio, gan hefyd gefnogi'r Cynghorydd Recriwtio a'r Uwch-gynghorydd Recriwtio o ran darparu proses recriwtio effeithlon, effeithiol, a diogel.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn ogystal â bod yn bwynt cyswllt allweddol ar gyfer rheolwyr recriwtio, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n rhan o dîm prysur ac yn gyfrifol am oruchwylio'r tîm o ddydd i ddydd.
Bydd hyn yn cynnwys darparu cymorth ac arweiniad i'r tîm, cydlynu a dyrannu llwyth gwaith, a hyfforddi aelodau newydd o'r tîm. Byddwch hefyd yn rhoi cymorth i'r Cynghorydd Adnoddau i sicrhau bod y prosesau recriwtio yn y Bwrdd Iechyd yn effeithlon, yn effeithiol ac yn ddiogel.
Gan y byddwch yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, bydd yn ofynnol i chi gadw gwerthoedd y Bwrdd Iechyd wrth graidd eich gweithrediadau o ddydd i ddydd.
Oherwydd natur y swydd, mae meddu ar sylw profedig i fanylion a sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid yn hanfodol i'r ymgeisydd llwyddiannus.
Daw’r cyfle hwn ar adeg gyffrous i’r swyddogaeth recriwtio wrth i ni weithio tuag at drawsnewid y llwybr recriwtio i sicrhau gwasanaeth personol i’r holl randdeiliaid.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 06.01.2026
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 4 mewn pwnc perthnasol neu brofiad cyfatebol amlwg, e.e. delio ag amrywiaeth o gwsmeriaid ar lafar, yn ysgrifenedig/electronig, defnyddio gwasanaeth cwsmeriaid fel arf cystadleuol
- Gwybodaeth ymarferol am bolisïau, gweithdrefnau a chyfraith cyflogaeth
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth Sylfaenol am ddeddfwriaeth mewnfudo
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol o weithio ym maes recriwtio/chwilio am ymgeiswyr neu amgylchedd gweinyddol â phrosesau yn ei lywio
- Profiad o ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
- Profiad mewn amgylchedd swyddfa
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio yn y GIG
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
- Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth.
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Sgiliau Cymraeg – Lefel 1
Skills & Attributes
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i gymhwyso gwelliannau ansawdd i brosesau
- Y gallu i fonitro a datrys ymholiadau cwsmeriaid
- Sgiliau TG rhagorol, sy'n cynnwys gwybodaeth ymarferol dda am y pecyn Microsoft Office
- Sgiliau trefnu rhagorol a'r gallu i flaenoriaethu'n effeithiol
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dawn Summerfield
- Teitl y swydd
- Medical Recruitment Advisor
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 0300 303 6138
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rachel Silk - Ymgynghorydd Recriwtio Meddygol Hŷn
01437 773336
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





