Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyfleusterau
- Gradd
- NHS AfC: Band 8a
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-EA100-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glangwili / Ysbyty Tywysog Philip / Ysbyty Llwynhelyg / Ysbyty Bronglais
- Tref
- Caerfyrddin / Llanelli / Hwlffordd / Aberystwyth
- Cyflog
- £56,514 - £63,623 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 07/09/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Rheolwr Cyfleusterau
NHS AfC: Band 8a
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn arweinydd dynamig sydd â phrofiad o reoli cyfleusterau ac sy'n barod i wneud gwahaniaeth sylweddol mewn amgylchedd gofal iechyd ffyniannus? Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am bedwar Rheolwr Cyfleusterau i ymuno â'n timau ymroddedig ar bob un o'n safleoedd ysbyty;
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais x 1
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili x 1
- Ysbyty’r Tywysog Philip x 1
- Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg x
Nodwch yn glir yn eich cais pa safle(oedd) yr ydych yn gwneud cais amdano/amdanynt.
Yn y rôl allweddol hon, byddwch yn darparu gwasanaeth cyfleusterau eithriadol i'n cleifion, ein staff a'n hymwelwyr, gan gefnogi gwasanaethau clinigol i weithredu'n effeithlon yn yr ardal.
Fel Rheolwr Cyfleusterau, byddwch yn gyfrifol am ddarpariaeth weithredol ystod eang o Wasanaethau Cyfleusterau, gan sicrhau bod safonau o ansawdd uchel yn cael eu cynnal yn unol â rheoliadau gofal iechyd. Bydd eich sgiliau arweinyddiaeth yn ysbrydoli tîm amrywiol, gan fonitro perfformiad a meithrin diwylliant o ragoriaeth ar draws amrywiol wasanaethau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd rhai o'r cyfrifoldebau allweddol yn y swydd newydd hon yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Arwain a rheoli gweithrediadau cyfleusterau, gan gynnwys arlwyo, glanhau a phorthora, ar draws pob safle acíwt a chymunedol.
- Sicrhau y darperir gwasanaethau prydau bwyd o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y claf, gan ddadansoddi data i gefnogi prosesau cynhyrchu a dosbarthu bwyd effeithiol.
- Datblygu a gweithredu mesurau rheoli stoc, gan werthuso cyfarpar a blaenoriaethu adnoddau ar gyfer effeithlonrwydd gweithredol.
- Cydweithio ag uwch-arweinwyr cyfleusterau a chyd-weithwyr ystadau i feithrin perthnasoedd cryf a chefnogi'r broses o ddarparu gwasanaeth di-dor.
- Cynnal ymweliadau safle i ddatrys problemau gweithredol, gan sicrhau y cydymffurfir â pholisïau, gweithdrefnau a gofynion deddfwriaethol
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn ffynnu mewn rôl a fydd yn gofyn iddo:
- Feddu ar brofiad amlwg o reoli cyfleusterau mewn amgylchedd gofal iechyd neu debyg.
- Meddu ar sgiliau arweinyddiaeth a chymhelliant cryf i reoli tîm amrywiol yn effeithiol.
- Meddu ar alluoedd datrys problemau rhagorol ynghyd â ffocws ar wella gwasanaethau'n barhaus.
- Bod yn gymwys mewn rheoli cyllidebau ac adrodd ariannol
- Gallu meithrin perthnasoedd cryf â rhanddeiliaid
- Meddu ar y gallu i reoli nifer o flaenoriaethau a chynnal safon uchel o ran darparu gwasanaeth.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi ei staff i goleddu'n llawn yr angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliad a phanel rhanddeiliad rhwng 17/09/2025 a 25/09/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel Gradd neu wybodaeth a phrofiad cyflogaeth blaenorol cyfatebol o wasanaethau sy'n gysylltiedig â Chyfleusterau
- Gwybodaeth ddatblygiedig ac arbenigol iawn am Gydymffurfedd y Gwasanaethau Cyfleusterau, yr Amgylchedd, Iechyd a Diogelwch, Hyfforddiant Gorfodol, Archwilio a Dadansoddi Data, a gafwyd trwy gymhwyster lefel Gradd Meistr perthnasol neu gyfuniad cyfatebol o addysg, gwybodaeth, sgiliau a phrofiad blaenorol
- Gwybodaeth ymarferol am gynhyrchion Microsoft Office, gan gynnwys Microsoft Excel, Word, Outlook, neu gymhwyster cysylltiedig
- Cymhwyster arweinyddiaeth perthnasol (e.e. ILM) neu lefel gyfatebol o wybodaeth
- Profiad o arweinyddiaeth
- Yn gallu dehongli canllawiau cenedlaethol, safonau a gwelliannau a chynghori ar eu gweithredu
- Gwybodaeth drylwyr am newidiadau deddfwriaethol, safonau statudol, gofynion cyfreithiol, cyfraith Iechyd a Diogelwch, ac ati
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth arbenigol a datblygedig iawn am gydymffurfedd gwasanaethau Cyfleusterau, yr Amgylchedd, Iechyd a Diogelwch, hyfforddiant gorfodol, archwilio a dadansoddi data
- Gwybodaeth dda am yr amgylchedd Gofal Iechyd/amgylchedd y GIG
- Cymhwyster Iechyd a Diogelwch cydnabyddedig e.e. NEBOSH, Iechyd a Diogelwch Cyffredinol, Rheolaeth Amgylcheddol
- Gwybodaeth am reoli Cyfleusterau'r GIG a gweithio yn y maes hwnnw
- Gwybodaeth a phrofiad o ran gwella gwasanaethau
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol o weithio mewn rôl uwch-reoli a/neu Wasanaethau Gweithredol Cyfleusterau neu rôl debyg
- Profiad sylweddol o reoli staff
- Sgiliau rhyngbersonol da; yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan gynnwys cyfleu gwybodaeth sensitif, gymhleth neu ddadleuol, mewn cyfarfodydd ac yn ysgrifenedig
- Sgiliau arwain, doethineb, cymell, dylanwadu a pherswadio cadarnhaol
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithredu gwellianna
- Profiad o reoli perfformiad gwasanaeth aml-agwedd gydag ystod eang o ddangosyddion perfformiad allweddol a thargedau.
- Profiad o weithio ym maes rheoli cyfleusterau'r GIG.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio yn yr ardal ddaearyddol mewn modd amserol
- Y gallu i weithio'n hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Peter Jones
- Teitl y swydd
- Head of Facilities
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Elin Brock
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Cymorth neu bob sector