Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Arlwyo
- Gradd
- Band 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Sul)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-EA027-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £23,970 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 27/07/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 08/08/2025
Teitl cyflogwr

Cynorthwyydd Arlwyo
Band 2
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Ar hyn o bryd, mae'r Adran Arlwyo yn Ysbyty Cyffredinol y Tywysog Philip yn bwriadu recriwtio Cynorthwyydd Arlwyo sy'n awyddus i ymuno â thîm mawr o unigolion yn yr adran i ddarparu gwasanaethau glanhau ac arlwyo effeithiol ac effeithlon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan hanfodol yn y tîm trwy sicrhau bod y bwyd yn cael ei baratoi a'i gyflenwi a bod yr adran yn cael ei glanhau i'r safon uchaf.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Y contract sydd ar gael ar hyn o bryd yw un swydd 30 awr. Mae'r contract hwn ar gyfer gweithio 4 diwrnod yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Sul. Bydd ymgeiswyr yn cael iwnifform a hyfforddiant llawn.
Bydd y dyletswyddau'n amrywio ac yn cynnwys dyletswyddau coginio, porthor cegin, bwyty, a golchi llestri. Byddwch yn cael cymorth a hyfforddiant ar ddarparu safon uchel o ran gwasanaeth cwsmeriaid ac ailstocio ardaloedd gan gynnal amgylchedd glân a hylan wrth i chi weithio. Bydd yn ofynnol delio â thaliadau â cherdyn ac arian parod.
Bydd dyletswyddau Cynorthwyydd Arlwyo yn cynnwys cynorthwyo'r cogydd â gofal i gyflawni pob agwedd ar ddarparu bwyd, glanhau'r gegin yn drylwyr a glanhau'r cyfarpar a ddefnyddir yn ystod y dydd.
Darperir hyfforddiant llawn yn yr adran. Mae'r oriau gwaith rhwng 06:00 a 20:00.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael iwnifform a hyfforddiant llawn.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
• Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
• Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
• Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
• 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 08/08/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Yn llythrennog a rhifog
- Iechyd a Diogelwch Sylfaenol, COSHH, symud a chodi a chario (hyfforddiant yn y swydd)
- Lefel diogelwch bwyd 2 neu gyfwerth
Meini prawf dymunol
- Lefel dda o addysg gyffredinol
- NVQ 2
- Cymhwyster y Cynllun Croeso
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio ym maes lletygarwch neu mewn amgylchedd cegin
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddelio â'r cyhoedd
- Profiad o weithio yn amgylchedd cegin fawr
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ben Goddard
- Teitl y swydd
- Kitchen Superintendent
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 783732
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Cymorth neu bob sector