Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Arlwyo
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol: Mae'r shiffau yn 06:00-14:00, 08:00-16:00 or 10:00-18:00
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (I gynnwys nosweithiau, penwythnosau a gwyliau banc)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-EA044-1025
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £24,833 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 26/10/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 04/11/2025
Teitl cyflogwr

Cogydd
Gradd 2
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Ar hyn o bryd, mae'r Adran Arlwyo yn Ysbyty Bronglais yn bwriadu penodi Cogydd i ymuno â'r tîm mawr o unigolion yn yr adran, a hynny i ddarparu gwasanaeth coginio effeithiol ac effeithlon mewn amgylchedd ysbyty.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl hanfodol yn y tîm wrth sicrhau bod bwyd yn cael ei baratoi i'r safon uchaf.
Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi, ond bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar City & Guilds 706/1 a 2 neu gymhwyster cyfatebol.
Y swydd sydd ar gael yw un swydd 30 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Sul, a bydd gofyn i chi weithio penwythnosau a gwyliau banc yn ôl trefn rota hefyd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus allu gweithio'n rhan o dîm sy'n cynhyrchu prydau bwyd o safon uchel i gleifion, staff ac ymwelwyr mewn cegin fasnachol brysur. Mae ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth a sgiliau cyfathrebu rhagorol hefyd yn hanfodol. Byddai profiad o baratoi prydau ar gyfer anghenion deietegol arbennig yn fantais ar gyfer y swydd hon.
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys:
Paratoi a choginio prydau bwyd i gleifion, staff a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Paratoi prydau deietegol arbennig ar gyfer cleifion yn ôl y gofyn.
Cadw'r ardal goginio'n lân ac yn daclus bob amser a llenwi ffurflenni HACCP perthnasol.
Darperir hyfforddiant llawn yn yr adran.
Mae'r oriau gwaith rhwng 06:00 a 18:00.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael hyfforddiant llawn ac iwnifform staff.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 04/11/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel sylfaenol o addysg gyffredinol
- City & Guilds 706 (1 a 2) neu gymhwyster cyfatebol
- Tystysgrif Hylendid Bwyd Sylfaeno
- Gwybodaeth fanwl am Hylendid Bwyd a gwybodaeth am systemau HACCP
- NVQ Lefel 3 mewn Paratoi Bwyd
Meini prawf dymunol
- Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel Canolradd
- Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel Uwch (neu barodrwydd i'w chyflawni)
- Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch, COSHH, Symud a Chodi a Chario
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol o ddyletswyddau coginio tebyg
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn sefydliad neu gorff o faint tebyg
- Profiad o anghenion deietegol arbennig
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ben Goddard
- Teitl y swydd
- Catering Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 783732
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Cymorth neu bob sector