Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Arlwyo
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol: Mae'r oriau gwaith rhwng 07:00 a 13:00 neu 12:00 a 18:00
Oriau
Rhan-amser - 11 awr yr wythnos (2 ddiwrnod yr wythnos rhwng dydd Llun a dydd Gwener)
Cyfeirnod y swydd
100-EA047-1025
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Tywysog Philip
Tref
Llanelli
Cyflog
£24,833 Y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/11/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
12/11/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Cynorthwyydd Manwerthu

Gradd 2

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae adran Arlwyo Ysbyty'r Tywysog Philip ar hyn o bryd yn chwilio am gynorthwyydd manwerthu ar gyfer ein siop fanwerthu Caban Express, i weithio gyda chyd-weithwyr i ddarparu gwasanaeth manwerthu effeithiol ac effeithlon i'n cwsmeriaid.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl hanfodol yn y tîm, ac yn sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu i'r safon uchaf.

Rhoddir hyfforddiant llawn ac iwnifform i'r ymgeisydd llwyddiannus. 

Y swydd a gynigir yw un swydd 11 awr yr wythnos dros ddau ddiwrnod, Llun-Gwener.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r swydd hon ar gyfer gweithio amryw ddiwrnodau yn ystod yr wythnos, a hynny yn ôl trefn rota dreigl ddwy wythnos.

Bydd y dyletswyddau'n cynnwys:

Cyfarch a gwasanaethu cwsmeriaid ag agwedd gwrtais.

Gweithredu til cyfrifiadurol gyda thaliadau cerdyn ac arian parod. 

Cofnodi'r derbyniadau dyddiol ar ddiwedd y dydd.

Sicrhau bod y siop wedi'i stocio'n briodol.

Cwblhau diwydrwydd dyladwy yn unol â deddfwriaeth HACCP. 

Cynnal glendid trwy gydol y dydd. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar 12/11/2025.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Yn Llythrennog a Rhifog
  • Diogelwch Bwyd Lefel 2
  • Iechyd a diogelwch sylfaenol, COSHH
  • Codi a chario
  • Ymwybyddiaeth o alergenau
Meini prawf dymunol
  • Addysg gyffredinol dda

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad mewn rôl manwerthu
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddelio â'r cyhoedd

Arall

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Ben Goddard
Teitl y swydd
Catering manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01554 783732
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg