Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Arlwyo
- Gradd
- Band 2
- Contract
- Banc - yn ôl yr angen
- Oriau
- Gweithio hyblyg - Banc - yn ôl yr angen
- Cyfeirnod y swydd
- 100-BANK-EA001-0326
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip,
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £24,833 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/03/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 25/03/2026
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Arlwyo Banc
Band 2
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Ar hyn o bryd, mae'r Adran Arlwyo yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn dymuno recriwtio Cynorthwyydd Arlwyo cronfa sy'n awyddus i ymuno â thîm mawr o unigolion yn yr adran i ddarparu gwasanaethu glanhau ac arlwyo effeithiol ac effeithlon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan hanfodol yn y tîm trwy sicrhau bod y bwyd yn cael ei baratoi a'i gyflenwi a bod yr adran yn cael ei glanhau i'r safon uchaf.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd ddarparu gwasanaeth arlwyo a bwyd i'r holl gleifion ac ymwelwyr, a hynny'n unol â'r Polisi Arlwyo a Maeth cytunedig, yn ogystal â'r Rheoliadau Diogelwch Bwyd a'r Rheoliadau Hylendid Bwyd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn y rôl hon, byddwch yn cefnogi'r gwasanaeth arlwyo, gan helpu i sicrhau bod cleifion, staff ac ymwelwyr yn cael prydau bwyd diogel, o ansawdd uchel bob dydd. Byddwch yn ymwneud â phob agwedd ar waith y gegin, yn cynnwys glanhau'r lloriau, y waliau, yr arwynebau gwaith a'r cyfarpar, gan ddilyn yr amserlenni glanhau cytunedig.
Byddwch yn helpu gyda'r gwaith sylfaenol o baratoi bwyd megis llysiau, saladau, brechdanau a bwyd bys a bawd syml. Mae tasgau glanhau dyddiol, wythnosol ac achlysurol yn rhan o'r drefn arferol, ac mae'n bwysig dilyn pob system codau lliw i gynnal safonau hylendid.
Un elfen o'r swydd yw derbyn cyflenwadau o fwydydd a deunydd glanhau, gwirio bod popeth yn gywir, a storio'r eitemau'n ddiogel, yn unol â'n polisïau gweithredu. Byddwch hefyd yn cymryd rhan yn y broses o weini bwyd i gleifion gan ddefnyddio'r system gludfelt, a chan ofalu bod meintiau'r dognau'n gywir a bod y prydau cywir yn cael eu gweini. Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o anghenion deietegol arbennig a sicrhau bod y ceisiadau hyn yn cael eu dilyn.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 25/03/2026
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Yn llythrennog a rhifog
- Iechyd a Diogelwch Sylfaenol, COSHH, Symud a Chodi a Chario (hyfforddiant yn y gwaith)
- Diogelwch bwyd lefel 2 neu gymhwyster cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Lefel dda o addysg gyffredinol
- NVQ 2
- Cymhwyster y Cynllun Croeso
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio ym maes lletygarwch neu mewn amgylchedd cegin
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddelio â'r cyhoedd
- Profiad o weithio yn amgylchedd cegin fawr
Sgiliau Laith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ben Goddard
- Teitl y swydd
- Catering Manager
- Rhif ffôn
- 01554 783029
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Cymorth neu bob sector





