Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwasanaethau Gwesty
Gradd
Band 6
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhannu swydd
37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener - gallai ystyried rhannu swydd mewn oriau llawn amser)
Cyfeirnod y swydd
100-AC181-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Tywysog Philip
Tref
Llanelli,
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
20/07/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
28/07/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Rheolwr Arlwyo

Band 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous i reoli gweithrediadau wedi codi ar gyfer unigolyn profiadol a hynod gymhellgar i arwain y swyddogaeth Gwasanaethau Maeth yn Ysbyty Cyffredinol Tywysog Philip a safleoedd cymunedol yn y lleol.

Rydym yn chwilio am rheolwr gweithrediadau brwdfrydig, gweithgar, a phrofiadol i fod yn gyfrifol am gyflwyno a rheoli Gwasanaethau Maeth

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reolaeth weithredol a darpariaeth Gwasanaethau Arlwyo costeffeithiol o ansawdd uchel ledled yr ardal. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod pob agwedd ar y gwasanaethau arlwyo yn cael eu darparu yn unol â holl ofynion statudol Diogelwch Bwyd a Hylendid Bwyd.

Bydd ganddo gyfrifoldeb arweiniol dros reolaeth weithredol, a mewnbwn uniongyrchol i'r gwaith strategol o reoli'r Gwasanaethau Arlwyo.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

•    Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd 
•    Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro · Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
•    47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 
•    Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn sefydliad sy'n cael ei yrru gan werthoedd. Disgwylir i ddeiliad y swydd gynnal ein gwerthoedd o Urddas, Parch a Thegwch, Uniondeb, Didwylledd a Gonestrwydd a Gofal, Caredigrwydd a Thosturi yn sail i fframwaith ymddygiad sy'n cael eu cefnogi gan ein gwerthoedd sefydliadol o:

  • Rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn
  • Cydweithio hyd eithaf ein gallu i roi o’n gorau
  • Ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 28/07/2025

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • City and Guilds 706 1/2 neu brofiad cyfatebol
  • Gwybodaeth am ystod o weithdrefnau ac arferion sy'n ymwneud â rheoli a darparu gwasanaethau bwyd, rheoliadau diogelwch a rheoli staff a gafwyd trwy gymwysterau arlwyo proffesiynol hyd at lefel gradd neu brofiad cyfatebol
  • Dealltwriaeth o ystod o arferion a gweithdrefnau arlwyo sy'n gofyn am lefel uwch o wybodaeth ddamcaniaethol, mewn deddfwriaeth a rhwymedigaethau statudol a Rheoliadau Hylendid Bwyd 1995
  • Gwybodaeth am raglenni cyfrifiadurol, gan gynnwys Microsoft Word, Excel a PowerPoint
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster Hyfforddi'r Hyfforddwr/TAR neu gymhwyster cyfatebol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio ar lefel oruchwyliol ym maes arlwyo ar raddfa fawr
  • Hanes profedig o reoli gweithrediadau arlwyo amrywiol
  • Profiad o weithredu ar lefel sy'n amlygu gallu'r ymgeisydd i weithio ar ei liwt ei hun i gyflawni canlyniadau a bodloni terfynau amser a chyllidebau tyn
  • Yn amlygu'r gallu i reoli ac arwain staff
  • Profiad o reoli cyllidebau
  • Profiad o reolaeth weithredol a strategol
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol mewn rôl debyg yn y sector cyhoeddus
  • Cymryd rhan mewn mentrau rheoli newid

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jill Richards
Teitl y swydd
Senior Facilities Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01437773372
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg